Mae cwmni First Cymru wedi cyhoeddi prynhawn ‘ma y bydd nifer y teithiau sy’n cael eu rhedeg ar wasanaeth T1 yn cael eu lleihau dros dro o’r 31ain o Awst.
Ni fydd y teithiau canlynol yn rhedeg:
Llun i Sadwrn
O Gaerfyrddin i Aberystwyth: 10:05, 12:05 a 17:05
O Aberystwyth i Gaerfyrddin: 07:40, 12:40 a 14:40
Mae hyn yn effeithio ar deithiau drwy Lanllwni, Llanybydder, Pencarreg, Llanbedr Pont Steffan a Llanwnnen.
Dywed Elin Jones AS “Newidiadau nawr i’n gwasanaethau bysus oherwydd prinder gyrrwyr a mi fydd y newidiadau yma siwr o gael effaith andwyol ar nifer i gyrraedd eu gwaith neu wasanaethau allweddol.”
Ni fydd newidiadau i wasanaethau ar Ddydd Sul a bydd y sefyllfa yn cael ei hadolygu bob pythefnos. Mae cwmni First Cymru yn ymddiheurio am unrhyw anghyfleustra a achosir.
I weld yr amserlen mwyaf diweddar ewch i wefan First Cymru.