Côr Meibion Cwmann a’r Cylch

Y Côr yn ail ddechrau canu.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Cyfarfu Pwyllgor Côr Meibion Cwmann a’r Cylch nos Fawrth 22ain Mehefin i drafod trefniadau iddynt ail ddechrau’r ymarferion canu. Penderfynwyd cynnal yr ymarfer ar nos Fercher 7fed Gorffennaf yn yr awyr agored. Dyma fydd cyfarfod cynta’r Côr ers mis Mawrth 2020.

Bydd y swyddogion, tan arweiniad Kees Huysmans Cadeirydd y Côr, yn gwneud y trefniadau perthnasol er mwyn cadw’r aelodau’n ddiogel. Bydd yr aelodau yn gwisgo mwgwd ac yn cadw pellter o ddwy fedr oddi wrth ei gilydd. ‘Rydym yn edrych ymlaen at weld ein gilydd a chael canu unwaith eto’ meddai Kees Huysmans.

Cafwyd noson braf ar gyfer cyfarfod y pwyllgor. Gobeithio ceir tywydd tebyg nos Fercher 7fed Gorffennaf. Bydd Alun Jones, Ysgrifennydd y Côr yn cysylltu gyda’r aelodau i’w hysbysu o drefniadau’r noson.

Pob dymuniad da i’r Côr wrth iddynt, yng ngeiriau un o’i chefnogwyr:

‘Ail fwydo y fflamau,

Ail gynnau y tân;

Ail gwrdd fel cyfeillion

Ail godwn y gân.’

1 sylw

Meirion Huw John
Meirion Huw John

Braf cwrdd fel pwyllgor edrych mlan at weld bois eraill y cor cyn bo hir.

Mae’r sylwadau wedi cau.