47. Nathan Jenkins, Principality – y flwyddyn a fu

Dyma’r 47ain mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Aeth dros flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Mae Nathan Jenkins yn Rheolwr Cangen Cymdeithas Adeiladu y Principality ar y Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Nathan am ateb cwestiynau Clonc360.

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

Yr her fwyaf oedd addasu ar gyfer ffordd newydd o weithio i gadw cydweithwyr a’n haelodau’n ddiogel.

’Rydym wastad wedi anelu at ddarparu gwasanaeth cwsmer personol yn y Principality. Bu rhaid addasu’r ffordd ’rydym yn ymgysylltu ac yn rhwydweithio gyda’n haelodau yn sgil Cofid-19. Yr her yw parhau i gwrdd ag anghenion a disgwyliadau ein gwasanaeth safonol i’n haelodau a hynny o fewn canllawiau diogel Cofid.

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

Mae’r Principality wedi darparu offer a thechnoleg i’n galluogi i gyfathrebu gyda’n haelodau a gweithredu trefn apwyntiadau ‘Skype/Face-time’ ar ein cyfrifiaduron. Ceir ystafelloedd penodol i gwsmeriaid yn ein canghennau a ddefnyddir i gyfarfod gyda’n hymgynghorwyr. Glanheir ein hystafelloedd yn drwyadl ar ôl apwyntiadau. Mae’r drefn yma’n lleihau’r cysylltiad wyneb i wyneb a hefyd yn gofalu ein bod yn cadw at y pellter cymdeithasol priodol.

Mae’r Principality wedi gwneud trefniadau ar gyfer ein haelodau i gysylltu â rhyngweithio gyda’r staff dros y ffôn ar gyfer gwahanol fathau o drafodion ariannol. Darperir trefniadau diogelwch cadarn gennym er sicrhau bod ein haelodau’n ddiogel. Mae’r trefniadau hynny o gymorth i leihau’r risg rhag Cofid-19 oherwydd nad oes angen iddynt ymweld â’r gangen – gallent ein ffonio o ddiogelwch eu cartref.

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

’Rydym yn gwerthfawrogi mor bwysig yw’r Principality i’r gymuned yn Llanbed a’n bod yn fusnes sy’n medru goroesi sefyllfaoedd anodd.

Ein haelodau sy’n dylanwadu ar sut mae’r busnes yn gweithio ac yn llwyddo. Maent mor barod i werthfawrogi ein hymdrechion i gynnal a darparu gwasanaeth safonol mewn cyfnodau heriol a cyfnewidiol.

Caf fy rhyfeddu sut mae fy nghyd-weithwyr a’r aelodau’n cefnogi ac yn cynorthwyo ei gilydd. Mae’n brawf sut y gallwn gyda’n gilydd ddelio gyda sefyllfaoedd anodd.

Byddwn yn parhau i gyd-weithio gyda’r grwpiau cymunedol ardderchog sydd yma yn Llanbed. Edrychwn ymlaen yn obeithiol at groesawu mwy o’r gymuned i’r gangen pan fydd yn bosibl gwneud hynny. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.