On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Trigolion pentref Llanybydder yn hel atgofion…

gan Gwyneth Davies

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,  dw i wedi bod yn cerdded dipyn o gwmpas y pentref ac wedi cael clonc ddifyr gyda hwn a’r llall. Bu tipyn o drafodaeth am bentref Llanybydder a sut mae pethau wedi newid ar hyd y blynyddoedd ac yn wir i chi, roedd yr hanes yn ddiddorol iawn.

O ganlyniad, dyma fi’n mynd ati i gofnodi’r hyn a ddysgais. Hoffwn gymryd y cyfle hwn felly i ddiolch i Elonwy Davies, Ann Jones, Dewi Davies ac Irene Jones am eu cymorth.

Ar un adeg, roedd nifer fawr o siopau a thafarnau yma a phentref Llanybydder yn llawn bwrlwm. Felly dewch gyda fi nôl yn fy mheiriant amser i weld sut oedd pethau yn y dyddiau a fu!

Dyma flas i chi felly o’r hanes. Mynnwch gopi o rifyn Medi Papur Bro Clonc er mwyn darllen mwy.

Mae  Romino’s ger y sgwâr top wedi bod yn gaffi ers blynyddoedd ond tybed a wyddoch chi mai siop gwerthu lledr, losin a theganau oedd yno ar un adeg?

Mae gan Ann ac Elonwy atgofion am y siop hon sef Highbury Stores. Noson y ffair oedd hi ac wrth i Ann a’i mam gerdded heibio’r siop, fe sylwodd Ann ar ddoli hyfryd yn y ffenest. Roedd hi’n ysu i’w chael ac yn gobeithio’n fawr y byddai ei mam yn fodlon ei phrynu. Ond ymhen rhai dyddiau roedd y ddoli wedi diflannu o’r ffenest.

‘Wel am siom!’ meddai Ann.  Beth bynnag, doedd dim eisiau iddi boeni oherwydd ar Ddydd Nadolig daeth yr hen ŵr â’i farf wen â’r ddoli yn anrheg iddi. Roedd Ann ar ben ei digon!

Mr Evans oedd perchennog y siop honno yn ôl Elonwy ac un Nadolig, fe ofynnodd ei mam iddi fynd ag arian i Mr Evans yn siop Highbury gan ddweud, ‘ Mae mam yn dweud eich bod chi’n gwybod pam fy mod i wedi dod â’r arian i’r siop.’

‘O ie,’ oedd ateb Mr Evans. ‘Mae eich mam am brynu bag miwsig.’ Roedd Elonwy’n cael gwersi piano ac anrheg Nadolig  oedd hwnnw ond roedd Mr Evans wedi gadael y gath allan o’r cwd! Er bod Elonwy wedi cael  siom, cafodd y bag ddefnydd mawr am flynyddoedd ac roedd yn werth pob ceiniog.

Mae’n siŵr bod gan nifer o ddarllenwyr Clonc atgofion am ddigwyddiadau arbennig yn Llanybydder neu ambell stori ddifyr efallai! Os hoffech rannu’r straeon neu unrhyw beth arall â ni, plîs cysylltwch â fi ar gwyneth-davies@outlook.com neu ffoniwch 01570 480683.