Ar ddydd Llun 24ain o Fai dechreuodd Barry Davies y postmon lleol o Lanbed ei her o gerdded llwybr Clawdd Offa er mwyn codi arian tuag at Ymchwil Cancr yn rhan o ddigwyddiad elusennol y NAGS ‘A Million Dreams to Beat Cancer’.
O ganlyniad i’r pandemig, mae elusennau megis Ymchwil Cancr wedi colli allan ar ddigwyddiadau elusennol er mwyn casglu arian angenrheidiol. Fe wnaeth y NAGS ohirio ei gêm rygbi elusennol eleni, ond yn lle maent wedi cynnal digwyddiad ym mis Mai ‘A Million Dreams to Beat Cancer’ er mwyn i bobl cynnal sialens eu hunain i godi arian at Ymchwil Cancr wedi’r pandemig.
Mae llwybr y Clawdd Offa yn dathlu 50 mlynedd o fodolaeth eleni, felly teimlodd Barry ei fod yn berthnasol i gyflawni ei her gan nodi’r filltir sgwâr yma.
Nôl ym mis Mai 2019 fe wnaeth Barry gerdded llwybr arfordir Cymru o Gaer i Gas-gwent er mwyn codi arian tuag at Ymchwil Cancr. Pan gwblhaodd yr her dywedodd yn syth ei fod am gwblhau llwybr Clawdd Offa yn y dyfodol agos er mwyn iddo fedru dweud ei fod wedi cerdded o amgylch Cymru gyfan. Felly dydd Llun fe ddechreuodd o Gas-gwent ac mae ef yn gobeithio cyrraedd Prestatyn nos Wener yma (28ain).
Yn wahanol i’r sialens nôl yn 2019, mae Barry wedi cwblhau rhan fwyaf o’r sialens hyd yma ar ei ben ei hun gydag ychydig iawn o griw yn ei gefnogi ar hyd y daith.
Dydd Llun fe ddechreuodd o Gas-gwent ychydig cyn 5 y bore yn cario ei fag gyda’i ddillad am yr wythnos. Roedd y tir o dan draed yn llithrig iawn felly gyda’r bag ar ei gefn roedd yn her ofnadwy. Cyrhaeddodd Pandy ar ddiwedd dydd Llun wedi cwblhau 32 o filltiroedd.
Ar ei ail ddiwrnod fe wnaeth Barry ddechrau am hanner awr wedi 5 gan gerdded dros y Mynydd Du lle’r oedd man uchaf y daith. Roedd yn wyntog iawn i ddechrau’r diwrnod. Yn wahanol i ddoe, doedd y bag ddim ar ei gefn, felly roedd hynny o fudd iddo. Cyrhaeddodd Lower Harpton y noson honno wedi cwblhau 38 o filltiroedd.
Hanner ffordd trwy’r wythnos a dechreuodd Barry ychydig yn hwyrach na’r arfer gan roedd ei bengliniau yn achwyn. Roedd y cwpwl o filltiroedd cyntaf yn arafach i’r arfer ond wrth iddo barhau i gerdded fe wnaeth ei goesau esmwytho. Yn ystod y dydd fe wnaeth Barry gerdded heibio’r marc hanner ffordd gan gyrraedd Forden, Sir Drefaldwyn ar ddiwedd y dydd wedi cwblhau 31 o filltiroedd.
Gyda dau ddiwrnod i fynd mae Barry yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth a’r negeseuon y mae ef yn ei dderbyn. Os hoffech chi gefnogi Barry gan gyfrannu i’r digwyddiad dilynwch y ddolen hon i dudalen Ymchwil Cancr.
Gyda’n gilydd fe wnawn ni faeddu Cancr.