Y Postmon lleol wedi cwblhau ei her

Barry Davies o Lanbed sydd erbyn hyn wedi cerdded o amgylch Cymru gyfan i godi arian tuag at Ymchwil Cancr.

gan SionedDavies

Nôl ym mis Mai 2019 fe wnaeth Barry Davies, y postmon o Lanbed sialens aruthrol o gerdded ar hyd llwybr arfordir Cymru mewn 30 diwrnod er mwyn codi arian tuag at Ymchwil Cancr. Dechreuodd yng Nghaer ar y 10fed o Fai a chwblhaodd ei daith yng Nghas-gwent ar yr 8fed o Fehefin. Ar adeg hynny soniodd Barry ei her nesaf bydd cerdded y Clawdd Offa o Gas-gwent i Brestatyn. Byddai hyn yn golygu y byddai ef wedi cerdded o amgylch Cymru gyfan.

Mae Barry yn rhan o gymuned y NAGS sydd yn codi arian yn flynyddol tuag at ymchwil cancr. Bob dwy flynedd maent yn chwarae gêm o rygbi elusennol. Eleni gorfodwyd i’r NAGS ohirio ei gêm rygbi o ganlyniad i Covid felly fe wnaethpwyd cynnal digwyddiad ym mis Mai sef ‘A Million Dreams’. Fel rhan o’r digwyddiad roedd unrhyw un yn medru cyfrannu trwy gyflawni sialens ei hunain er mwyn codi arian at Ymchwil Cancr.

Ar nos Fawrth y 18fed o Fai fe benderfynodd Barry ei fod am gerdded llwybr y Clawdd Offa gan ddechrau ar ddydd Llun y 24ain a gorffen ar ddydd Gwener 28ain o Fai – her ei hun o gerdded y Clawdd Offa mewn 5 diwrnod. Wrth edrych ar wefan llwybr y Clawdd Offa maent yn sôn bod rhedwyr mynydd yn cymryd 5 diwrnod i gyflawni’r llwybr a bod cerddwyr yn cymryd 12 diwrnod i gwblhau’r llwybr. Felly roedd hyn yn her go iawn i Barry. Ei darged oedd cerdded 35-36 o filltiroedd bob dydd.

Felly ar fore dydd Llun y 24ain dyma Barry yn dechrau ar ei daith ychydig cyn 5 gyda’i fag a dillad am yr wythnos ar ei gefn. Doedd Barry erioed wedi cerdded gyda bag mor fawr a drwm ar ei gefn. Roedd y tywydd yn sych ond yn wlyb ac yn fwdlyd o dan draed. Roedd y pwysau yn y bag yn arafu Barry ac roedd ei gefn a’i ysgwyddau yn dechrau achwyn. Erbyn hwyr y prynhawn roedd criw wedi dod i gymryd ei fag ac felly fe fentrodd i wneud ychydig mwy o filltiroedd gan orffen ar 32 o filltiroedd yn Llangattock, Lingoed.

Dydd Mawrth a dechreuodd Barry ar ei ddiwrnod am hanner awr wedi 5. O heddiw ymlaen roedd yna griw o bobl yn mynd i’w gefnogi bob dydd. Golyga hyn y bydd yn gallu cerdded heb ei fag- dyma ryddhad iddo. Peth cyntaf yn y bore cerddodd Barry dros y Mynydd Du- roedd hi’n wyntog ofnadwy ar frig y mynydd ond roedd e werth bob cam i weld y golygfeydd godidog. Yn ystod y dydd cafodd cwmni yn cerdded gydag ef ac roedd hyn yn ei ysgogi i fynd ymhellach. Cyrhaeddodd Barry Lower Harpton wedi cwblhau 38 o filltiroedd.

Ni chafodd Barry y dechreuad yr oedd ef eisiau ar fore dydd Mercher. Deffrodd gyda’i bengliniau yn achwyn ac roedd yn boenus i gerdded. Er hyn fe ddechreuodd ei siwrnai gan gerdded heibio’r marc hanner ffordd o’r llwybr yn Lower Spoad. Dyma oedd y diwrnod caletaf i Barry gan roedd ef a’i gorff yn dechrau blino. Cyrhaeddodd Brompton Bridge gyda chriw newydd yn ei gyrraedd, felly gyda choesau fresh fe aeth ymlaen i gwblhau 6 milltir arall gan orffen ar 31 o filltiroedd yn Forden, Sir Drefaldwyn.

Bore dydd Iau ac fe aeth Barry a’r criw bant am 6 y bore. Roedd hi’n fore braf ac roedd Barry’n teimlo’n well na’r diwrnod blaenorol. Cafodd frecwast ym Mc Donalds newydd yn Buttington ac aeth ymlaen am Lanymynech lle’r oedd y tirwedd yn eithaf gwastad. Cerddodd ar hyd y canal ac wrth ymyl yr afon cyn cyrraedd Porth y Waen am ginio. Doedd ddim llawer o egni gyda Barry ar ôl cinio ar filltir 26 felly fe wnaeth benderfynu aros i gael ychydig o fwyd a diod eto wrth ymyl Cwrs Rasio Common. Cafodd ail wynt a pharhaodd gyda’r milltiroedd nesaf mewn amser da gan gyrraedd Pentre ar ddiwedd y dydd wedi cwblhau 35 o filltiroedd. Fe aeth Barry i’r gwely’r noson honno yn ymwybodol bod ganddo tua 42 o filltiroedd ar ôl i gwblhau’r her.

Dydd Gwener – y diwrnod olaf ac fe ddeffrodd Barry yn ei westy yn teimlo’n eithaf da a’r coesau ddim yn rhu ffôl. Daeth criw newydd i fyny yn y bore i’w gefnogi. Bant a fe am hanner awr wedi 5 gyda chwmni ar y daith. Fe barhaodd i gerdded wrth ymyl y Canal gan anelu at Landegla. Roedd yna lawer o fynyddoedd yn ystod y dydd ac roedd dod lawr y rhiwiau yn achwyn ei grimog a’i bengliniau felly roedd yn arafach wrth ddod lawr. Cafodd rôl frecwast ac ysgytlaeth yn Llandegla a bant a fe dros Foel y Plas, Moel Llanfair a Moel Gyw cyn cyrraedd Clwyd Gate. Penderfynodd fynd ymlaen at Fwlch Penbarra cyn cael cinio. Yn anffodus roedd diffyg signal ffôn i gysylltu gyda’r criw a doedd neb yn y maes parcio yr oedd Barry ynddo felly fe aeth ymlaen dros Foel Famau. Ychydig yr oedd ef yn ymwybodol am roedd y criw mewn maes parcio ger llaw. Er hyn fe gyrhaeddodd waelod Moel Arthur ar gyfer cinio wedi cerdded bron i 27 milltir. Daeth criw ychwanegol i’w gwrdd yn ystod y prynhawn ar ôl iddynt orffen gwaith ac roedd hyn yn ysgogi Barry hyd yn oed yn fwy i gyrraedd Prestatyn cyn hanner nos. Fe aeth ymlaen am Fodfari ac yna i Ruallt lle’r oedd golau dydd yn dechrau diflannu ac roedd angen tortsh arno i barhau. Yn anffodus doedd ddim batris ganddo i’r dortsh felly lamp y ffôn oedd yr opsiwn olaf. Cymerodd mwy o amser iddo gwblhau’r rhan nesaf wrth iddo gerdded trwy goedwigoedd ac i lawr llwybrau serth llithrig. Wrth ddod allan i’r heol roedd Prestatyn yn y pellter. Gyda llai na hanner awr tan hanner nos roedd gan Barry dwy filltir i fynd felly roedd angen cyflymu er mwyn cyrraedd ar amser. Cyrhaeddodd cerflun y Clawdd Offa gyda 6 munud i fynd tan hanner nos – ond roedd Barry wedi cwblhau’r her mewn 5 diwrnod. Golyga hyn bod Barry wedi cerdded tua 44 milltir yn ystod ei ddiwrnod olaf.

Yng ngeiriau Barry roedd yr her yn “tough ond gwerth bob cam ar gyfer yr achos a’r golygfeydd”. Dymuna Barry ddiolch i’w deulu a Huw am eu cefnogaeth ar hyd y daith. Ei fwriad oedd cyflawni’r daith ar ben ei hun gyda’r bag ar ei gefn ond roedd y criw wedi ei gynorthwyo i lwyddo gyda’r her. Hoffai ddiolch i bawb am eu negeseuon caredig yn ystod yr wythnos ac am eu cyfraniadau tuag at yr elusen sy’n meddwl llawer iddo.

Os hoffech chi gyfrannu tuag at y sialens dilynwch y ddolen hon.

Gyda’n gilydd fe wnawn ni faeddu cancr.