Problem fawr â chyflenwad dŵr ardal Llanbed

Mae presenoldeb faniau a loriau Dŵr Cymru yn amlwg iawn yn nhref Llanbed heddiw.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ar ddiwrnod mor arw a gwlyb, mae’n anodd dychmygu bod yna broblem gyda chyflenwad dŵr yr ardal heddiw.

Ers rhai oriau bellach gwelwyd presenoldeb amlwg faniau a loriau Dŵr Cymru yn Llanbed, a chadarnhawyd mewn neges destun a ddanfonwyd i gwsmeriaid y prynhawn ’ma bod yna broblem.

Hoffai Dŵr Cymru eich hysbysu y gallai afliwiad fod ar eich cyflenwad dŵr. Mae gennym dîm ar y safle yn fflysio ac rydym yn rhagweld y dylai’r cyflenwad dŵr glirio erbyn heno. Os yw’ch cyflenwad dŵr yn afliwiedig, rhedwch eich tap cegin oer am ychydig, oherwydd gallai hyn ei helpu i glirio.

Mae faniau Dŵr Cymru wedi eu parcio yn y dref a loriau mawr Owens Llanelli wedi eu parcio yn Stryd y Bont, Mae Parcio Co-op, Ffordd Aberaeron ac ar dir Ysgol Bro Pedr.

Mae’n edrych fel y sefydlwyd canolfan dosbarthu dŵr dros dro yn Ysgol Bro Pedr rhag ofn i’r cyflenwad fod yn ddiffygiol yn lleol, ond yn ôl un o weithwyr Dŵr Cymru ar ddyletswydd yn Llanbed heddiw, mae’r cyflenwad dŵr yn ddigonol yn Llanbed ar hyn o bryd ac mae Dŵr Cymru yn gwneud popeth i sicrhau bod hynny’n parhau.

Ychwanegodd y gweithiwr fod yna broblem yng Nghronfa Ddŵr Ystrad Fflur sy’n cyflenwi dŵr i ardal eang gan gynnwys Aberystwyth ac Aberaeon hefyd.

Mewn datganiad ebost pellach gan Ddŵr Cymru, rhannwyd y canlynol:

Efallai y bydd y dŵr wedi newid ei liw oherwydd ein bod ni wedi bod yn gweithio yn eich ardal.  Dylai’r dŵr glirio pan fyddwch yn rhedeg y tap dŵr oer.  Rydym ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

Enw: Pwysedd isel, dŵr afliwiedig a dŵr llaethog yn Llanbed, Ystrad Meurig ac Aberystwyth
Statws: Actif
Amcan o ddechrau’r gwaith: 14/02/2021
Amcan o gwblhau’r gwaith: 15/02/2021

Cyflenwir gwaith trin dŵr Ystrad Fflur, sydd wedi’i leoli ger Pontrhydfendigaid, gan dair cronfa ddŵr fechan Pyllau Teifi, sef Llyn Teifi, Llyn Egnant, a Phwll y Gwaith.  Mae’n bosib mai pibell wedi byrstio oedd gwraidd problemau heddiw wedi cyfnod o dywydd oer a rhew yn ddiweddar.