Rhythwyn Evans yw’r cyntaf i dderbyn brechlyn rhag Covid19 yn Llanbed

Grŵp Meddygol Bro Pedr wedi derbyn eu cyflenwad cyntaf o 300 dos AstraZeneca.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddodd Grŵp Meddygol Bro Pedr heddiw eu bod wedi derbyn eu cyflenwad cyntaf o 300 dos AstraZeneca.

Y claf cyntaf ym Meddygfa Llanbed i dderbyn brechlyn AstraZeneca oedd Rhythwyn Evans o Silian a dderbyniodd ei bigiad gan Dr Imam, Uwch Bartner.

Cododd Rhythwyn Evans dros £50,000 i’r Gwasanaeth Iechyd y llynedd trwy gerdded o amgylch ei gartref 91 gwaith mewn un diwrnod i helpu i guro pandemig COVID-19.

Dywed Sian Jones, Rheolwraig y Practis “Mae dyddiadau clinig wedi’u trefnu ac rydym wrthi’n ffonio cleifion 80 oed a throsodd i fynychu apwyntiadau. Byddwch yn amyneddgar, bydd digon o frechlynnau i bawb.”

Mae’r meddygfeydd yn cael llawer o alwadau gan gleifion sy’n ymholi am y brechlyn, a’r neges yw i beidio â ffonio. Bydd rhywun yn cysylltu â chi. Mae’n bwysig bod y llinellau ffôn yn cael eu cadw’n glir ar gyfer problemau meddygol.

Yn y cyfamser, parhewch i aros gartref pryd bynnag y bo modd, parchwch bellter cymdeithasol bob amser, gwisgwch fasg wyneb mewn mannau cyhoeddus a golchwch eich dwylo yn rheolaidd.