Torri record Mart Llanybydder

Gwerthwyd eidon am £1,790 ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Llun: @Evans_Bros1895

Gwerthwyd dros 600 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda trêd arbennig o dda drwy gydol y sêl a record pris yn cael ei dorri.

Gwerthodd yr eidon gorau am £1,790 o eiddo Jenkins, Brohedydd sydd yn torri’r record presennol yn Llanybydder. Gwerthodd yr aner orau am £1,550 o eiddo Davies, Blaenbronfaen. Gwerthodd y baren orau am £1,220 o eiddo Jones, Crofftyciff.

Y pris gorau am fuwch mewn llo oedd £1,120 o eiddo Griffiths, Blaenpant a gwerthodd y tarw gorau am £1,900 o eiddo Griffiths, Blaenpant. Y pris uchaf am fuwch a llo oedd £2,050 hefyd o eiddo Griffiths, Blaenpant. Hoffai Evans Bros ddiolch i deulu Blaenpant am y genfogaeth i Mart Llanybydder ar hyd y blynyddoedd a dymunwn pob dymuniad da iddynt yn eu hymddeoliad.

Y pris cyfartalog am eidonau oedd £1,116 a’r pris cyfartalog am aneirod oedd £1,040.

Bydd y farchnad nesaf o dda stôr ar yr 11eg o Fedi felly cofiwch gofrestru yn gynnar os oes stoc gyda chi i werthu. Marchnad mis Medi y llynedd oedd marchnad gwartheg fwyaf y flwyddyn a gyda phrisiau da y misoedd diwethaf a’r gwartheg o safon uchel sydd yn dod i Lanybydder mae’n debygol fydd niferoedd uchel yn bresennol.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor esmwyth.

Diwrnod llwyddiannus unwaith eto gyda’r prynwyr yn mynd am adre gyda lorïau yn llawn o stoc safon uchel a’r gwethwyr yn mynd am adre yn bles.