Uchelgais myfyriwr a raddiodd mewn Hanes yw dilyn olion traed ei ddarlithwyr.

Myfyriwr ar gampws Llambed wedi dweud mai ei uchelgais yw dod yn ddarlithydd.

gan Lowri Thomas

Myfyriwr aeddfed o Lansadwrn yw Alan Ormston, a wnaeth gais i astudio yn y Brifysgol ar ôl mynychu diwrnod agored.

Meddai Alan: “Rwy’ wedi dod o’r byd gwaith ac fel myfyriwr aeddfed roeddwn i eisiau astudio mewn prifysgol a oedd ag enw da am ei haddysgu a’i dosbarthiadau bach.  Gan fy mod yn lleol, roeddwn i’n gwybod bod gan y brifysgol enw da a chadarn ymhlith y gymuned leol, a’i bod yn ogystal yn uchel ei pharch o fewn y gymuned hanes genedlaethol.”

Penderfynodd ddarllen Hanes yn Llambed oherwydd cefndiroedd amrywiol y darlithwyr, o hanes diwylliannol i astudiaethau canoloesol i hanes modern.  I Alan, roedd yn gyfuniad perffaith, ac yn ei farn ef, dylid ystyried pob un o’r tri maes hyn yn sylfaenol i ddeall hanes yn well.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Alan wedi mwynhau pob agwedd ar y cwrs, yn enwedig ymchwilio ac ysgrifennu ei draethawd hir. Ychwanega: “Mae’r academyddion yn Llambed wedi fy helpu i ddatblygu, a hynny dim ond drwy fod yn bresennol. Maen nhw am i chi gyrraedd eich potensial, ac maen nhw’n mynd o’u ffordd i’ch helpu i wireddu’r potensial hwnnw.”

Mae Alan wedi gweld newid sylweddol ynddo ef ei hun dros y tair blynedd diwethaf.

“Rwy’ wedi dod yn fwy trefnus, yn fwy dibynadwy, yn fwy hyderus, yn fwy canolbwyntiedig ac yn llawer mwy effeithiol wrth siarad yn gyhoeddus.  Mae’r rhain i gyd yn nodweddion pwysig a fydd yn fy helpu i symud ymlaen i’r bennod nesaf a dechrau fy astudiaethau ôl-raddedig.  Ar y dechrau, roeddwn i ond yn bwriadu astudio ar gyfer BA, doeddwn i ddim yn meddwl o gwbl y byddwn yn mynd ymlaen i astudio ar gyfer MA.  Mae’n debyg mai’r ffordd orau o edrych arno yw drwy gofio bod pob taith arbennig yn dechrau gyda’r un cam hwnnw, ac roedd fy niwrnod cyntaf, yn bendant, yn ddechrau taith gofiadwy .”

Mae’n canmol staff y Brifysgol am roi eu cymorth pryd bynnag roedd ei angen arno.  Yr wythnos ddiwethaf, cymerodd Alan ran yn y seremoni raddio rithiol, a dywedodd “roedd yn brofiad hyfryd i glywed Profost y campws a’r Is-Ganghellor yn gofyn i ni gadw mewn cysylltiad yn y dyfodol.  Roedd y ddau ohonynt yn galonogol pan siaradais â nhw am fy nghynlluniau at y dyfodol, ac mae hyn yn agwedd rwy’ wedi’i brofi ar sawl achlysur yn ystod fy ngyrfa israddedig.”

Uchelgais terfynol Alan yw dod yn ddarlithydd ei hun, a throsglwyddo’r gwerthoedd a ddysgwyd iddo gan ei ddarlithwyr Dr Harriett Webster, Dr Alexander Scott a Dr Lester Mason.  Mae’r ysbrydoliaeth hon wedi arwain iddo feddwl y byddai addysgu’r genhedlaeth nesaf o haneswyr yn anrhydedd.

Meddai’r Darlithydd Hanes Modern, Dr Alexander Scott,

“Roedd yn bleser gweithio gydag Alan drwy gydol ei astudiaethau BA. Mae’n fyfyriwr brwdfrydig a diwyd, a bob amser yn werthfawr mewn trafodaethau yn y dosbarth.

Dangosodd Alan benderfyniad a gwreiddioldeb yn ei waith cwrs. Er enghraifft, roedd ei draethawd hir ar wasanaeth milwrol Indiaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’i brosiect annibynnol ar y Titanic yn cynnig agweddau newydd ar dopigau sefydlog.

Yn PCYDDS Llambed, rydym yn ymfalchïo mewn cynnig amgylchedd cefnogol i’n holl fyfyrwyr – ac i fyfyrwyr aeddfed yn arbennig. Mae wir yn braf i weld Alan yn cyflawni ei botensial. Dymunwn y gorau iddo yn ei astudiaethau ôl-raddedig – a thu hwnt.”