Mart Llanybydder yn llawn ar gyfer yr arwerthiannau nadolig.
Bu’r wythnos diwethaf yn un brysur ym marchand Llanybydder gan mai Dydd Llun oedd yr arwerthiant nadolig ar gyfer y defaid a Dydd Sadwrn cynhaliwyd yr arwethiant nadolig o wartheg.
Dydd Llun y 6ed o Ragfyr
Defaid lladd hyd at £150
Hyrddod lladd hyd at £111
Ŵyn tew £250 y pen £6.10pkg
1146 o ŵyn stor hyd at £135
Moch hyd at £190
Lloi hyd at £280
Diolch i Llyr James o gigyddion Bow Street am fodloni i feirniadu gyda ni a llongyfarchiadau i bob un wnaeth gymryd rhan yn y sioe o ŵyn tew. Diolch hefyd i’r cwmniau lleol am noddi’r gwobrau.
Llongyfachiadau i Carwyn Lewis, Gwarcoed Einon am ddod i’r brig gyda’r ŵyn gorau a aeth ymlaen i werthu am £250 yr un. Enillodd Carwyn y wobr yn yr adran CFfI hefyd a bydd y wobr ar ei ffordd i Glwb Pontsian.
Diolch i gwmni celfi Davies and Davies, Drefach Felindre am rodd o ddafad ‘Ewemoo’ a werthodd am £350. Bydd yr arian i gyda yn mynd at elusen Tir Dewi. Diolch hefyd i deulu Davies, Pistyllgwyn am eu rhodd o oen tew, gyda’r arian hefyd yn mynd at Tir Dewi.
Dydd Sadwrn y 11eg o Ragfyr
Gwerthwyd dros 400 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda trêd da iawn unwaith eto. Gallwn gadarnhau bod dros 7,000 o wartheg wedi mynd trwy farchnad Llanybydder eleni sydd yn gyfanswm arbennig o dda.
Gwerthodd yr eidon gorau am £1,830 o eiddo Thomas, Maesymeillion a gwerthodd yr aner orau am £1,860 o eiddo Guto Jones, Neuadd.
Llongyfarchaidau i bawb wnaeth drio yn y sioe. Carwyn Lewis, Gwarcoed Einon ddaeth i’r brig gyda’r anifail gorau a Guto Jones, Neuadd ddaeth i’r brig yn adran CFfI. Diolch unwaith eto i’r busnesau lleol am noddi’r gwobrau ac i Llyr James, cigyddion Bow Street am feriniadu unwaith eto.
Yr 8fed o Ionawr bydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib.
Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn prynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor llyfn.
Hoffem hefyd ddiolch i bawb boed yn prynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad drwy gydol 2021. Dydd Llun yr 20fed o Ragfyr fydd yr arwerthiant olaf am eleni.
Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid a gobeithiwn am flwyddyn lewyrchus arall yn 2022.