Anwen Butten yn ymddeol

Y fowlwraig o Gellan yn rhoi’r gorau i bencampwriaethau mawr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Heddiw cyhoeddodd Anwen Butten ei bod yn ymddeol o gynrychioli Cymru mewn bowls.

“Pan chi’n gwybod, chi yn gwybod,” meddai Anwen.  “Mae’n amser i gyhoeddi bo fi yn gorffen bowlio ym mhencampwriaethau i Gymru.”

Ychwanegodd Anwen ar facebook, “Mae wedi bod yn wych, ac rwy’n falch o fy holl lwyddiannau a chyflawniadau.  Er gwaethaf sawl her ar hyd y ffordd rwyf wedi bod wrth fy modd yn cynrychioli Cymru am yr 20 mlynedd diwethaf ar y lefel uchaf.”

Bu Anwen yn bowlio yng Ngemau’r Gymanwlad ym Mirmingham yr wythnos ddiwethaf a hi oedd capten tîm Cymru.  O ganlyniad i hyn methodd fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron lle roedd i fod cael ei hurddo i’r Orsedd.

Ond ni fydd Anwen yn rhoi’r gorau i’r gamp yn llwyr.  “Gobeithio un diwrnod, bydda i’n cael cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r gamp dwi’n ei charu.” dywedodd Anwen.

“Diolch yn fawr i bawb sydd wedi fy nghefnogi.  Chi’n gwybod pwy ydych chi.”

Postiodd Anwen ddau lun hyfryd uchod o hi a’r teulu o dan y teitl “Ddoe a Heddiw… Manceinion 2002 – Birmingham 2022.”.

Llongyfarchiadau enfawr i Anwen ar ei holl gyrhaeddiadau bowls.