Wrth gyflwyno’r bardd buddugol yn ystod Seremoni’r Cadeirio yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant heddiw, cyhoeddodd Dorian Jones yr ysgrifennydd mai dymuniad Aled Evans yw cyfrannu ei enillion ariannol i’r Banc Bwyd.
Y wobr heddiw oedd Cadair Fechan a £200. Y gadair a luniwyd gan Alec Page, Llanbed yn rhoddedig gan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan Gwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
Gofynnwyd am gerdd gaeth neu ddilyniant o gerddi caeth hyd at 80 llinell ar y testun “Baner”.
Roedd 6 ymgeisydd i’r gadair eleni. Y beirniad oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones a dywedodd fod y safon eleni yn eitha da.
Ffugenw’r bardd buddugol oedd “Dic” ac roedd y beirniad yn dweud ei fod yn llawn haeddu’r gadair.
Enillodd Aled y gadair yn Eisteddfod Llanbed yn 2011 a’r Fedal Ryddiaith yn 2014. Wyneb cyfarwydd yn Eisteddfod Llanbed felly ac enillydd caredig iawn yn cefnogi elusen a chymaint o alw ar ei hadnoddau yn y gymuned heddiw.
Gellir gweld fideo byr o’r seremoni ar flog byw Clonc360, yn ogystal â lluniau a chanlyniadau’r dydd.