#Clonc40 – Blas o straeon mis Mehefin dros y blynyddoedd ym Mhapur Bro Clonc

Ar ben-blwydd Clonc yn 40 oed, edrychwn ar beth oedd cynnwys y papur bro yn y ganrif ddiwethaf

gan Yvonne Davies

Clonc Mehefin 1983.

Bûm yn pori drwy hen rifynnau Papur Bro Clonc er mwyn tynnu’r atgofion yma at ei gilydd nôl yn 2007 pan oedd Clonc yn 25 oed.  Fe’u cyhoeddwyd yn y papur bro dros gyfnod o flwyddyn bryd hynny.

Nawr bod Clonc yn ddeugain oed, dyma rannu’r cyfan unwaith eto ar wefan Clonc360, a misoedd Mehefin y ganrif ddiwethaf sy’n cael y sylw’r tro hwn.

1982

Llanllwni – Mrs Margaret Griffiths, Y Ficerdy yn 104.

Golygydd Clonc – yn gofyn am fwy o ‘ymateb’ oddi wrth y darllenwyr.

Llanwenog – yn colli cymeriad – Miss Hetty Jones, Caellan yn marw yn 86 mlwydd oed.

1983

Llambed – Rhaglen Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r Fro Mehefin 26 – Gorff 3. Lluniau’r plant yn paratoi ar gyfer Pasiant ‘Lawdi Ilom’.

Cellan – Dawns Sgubor yn Ffosyffin, – ‘Eryr Wen’ yn perfformio.

1984

Llambed – ‘Twrw Tanllyd’ ddim yn cael perfformio yn y Neuadd Fictoria yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Edwin Jones yn derbyn siec am £60,000 i’r ’Steddfod oddi wrth Cadeirydd Cyngor Sir Dyfed.

Cwmsychpant – Nanna Ryder yn cael Gwisg Las i’r Orsedd.

1985

Gŵyl Werin Newydd – Y Cnapan.

Llangybi – Cyngerdd Deyrnged i Mrs Edith Williams, Tŷ’r Ysgol, – Prifathrawes Ysgol Llangybi am flynyddoedd lawer.

1986

Llangybi – Ysgol y Dderi yn 10 oed,

Llanfair – Yr Eglwys yn cydnabod gwaith diflino Mr Gwyn Evans, Maesgwyn (Llanfair Fawr) dros gyfnod o 54 o flynyddoedd.

Llambed – Mrs Rosa Evans, Drefach House – organyddes Capel Brondeifi am 56 o flynyddoedd.

Gwragedd Y Smotyn Du yn crasu 2,500 o bice bach i ‘Gŵyl Teulu Duw’ yn Llanelwedd.

1987

Llambed – Ymgyrch i gael Ysgol Ddwyieithog Benodol i ardal Llambed / Tregaron / Aberaeron.

Sefydlu Maer ieuengaf y Dre – Mrs Dorothy Williams, ac Anthea ei merch yn Faeres iddi.

Gorsgoch – Diwrnod agored ‘Defaid Cymru’ ym Meinigwynion Mawr. Miloedd o bobl yn ymweld â’r lle.

1988

Llangybi – Aelodau Capel Ebeneser yn cyflwyno tysteb i Mr D.T. Lloyd, Olmarch, am ei waith fel Ysgrifennydd am 40 mlynedd.

Pentrefi’r ardal yn brysur codi arian ar gyfer Gŵyl Ddrama’r Urdd yn Nyffryn Aeron.

1989

Gorsgoch Brynhafod. Cymanfa’r Ysgolion wedi ei chynnal yn ddifwlch ers 120 o flynyddoedd.

‘Y Llyffant’ – Ray Evans. Cyfeiriwyd eisoes am glyweliadau ar gyfer cynhyrchiad teledu; Rebecca Kelly a Sian Rowlands o Lanybydder yn cael rhan ‘Esther’ (iau a hŷn), ac Aled Jones, Meysydd, Drefach
yn chwarae rhan ei brawd.

1990

Cwmann – Capel Bethel, yn dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Achos ym Mharcyrhos.

Llambed – Mrs Hamer yn derbyn y ‘Fedal Gee’ am ei ffyddlondeb i’r Ysgol Sul am dros 80 o flynyddoedd.

Sefydlu Kistiah Ramiah yn Faer y Dref, – ei fam a’i chwiorydd yn teithio o Johannesburg, De Affrica ar gyfer yr achlysur.

Cwrtnewydd – Mr Bifan Morgan yn ymddeol o’i swydd fel Pennaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol Gyfun Llambed.

1991

Menter Newydd – Cwmni ‘Dolen’ – sef Eleri Davies a Margaret Davies Jones yn mentro i fwydo’r miloedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cwmann – Linda Jones, Coedmor Hall yn ennill Cystadleuaeth ‘Egon Ronay’ dros Gymru, gan fynd ymlaen i gystadlu dros Brydain.

Llambed – Aelodau Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Dyfed yn glanhau o gwmpas Llyn Falcondale.

1992

Pencarreg – Trigolion y pentref yn gofyn “Pwy sy’n berchen y Llyn?”

Ysgol Uwchradd – Noson o Rasys Asynnod yn codi arian i’r ysgol.

1993

Llangybi – Mrs Rowena Williams yn derbyn tlws ‘Halen y Ddaear’ ar Rhaglen ‘Heno’.

Menter Newydd – Lansio Cwmni ‘Iaith Cyf.’ yn Llambed.

1994

Llangybi – Gwisg newydd i blant Ysgol y Dderi.

Llanllwni – Cwmni ‘Teifi Timber Products’ Cross Roads yn derbyn Tystysgrif o’r Swyddfa Gymreig.

1995

Llambed – Gareth Richards yn ennill ‘Masterchef Cymru a De Orllewin Lloegr’.

Disgyblion yr Ysgol Uwchradd yn ymgyrchu i ddiogelu Ynysoedd y Galapagos.

Gweithwyr ‘Dewhurst’ yn derbyn gwobrwyon am wasanaeth ffyddlon dros 10 ac 20 mlynedd.

1996

Llambed – Cymdeithas y Cerddwyr yn trefnu ymgyrch ‘Lonc a Chlonc’ er mwyn annog ymwybyddiaeth o ymarfer a chadw’n iach.

Clwb Bowlio – Anwen Butten yn cael ei dewis fel aelod o dîm bowlio Merched Cymru dan 25 am y 7fed tro yn olynol.

Adran Urdd Llambed yn ennill tair gwobr 1af yn Eisteddfod Bro Maelor.

1997

Cwmann – Brenhines Rali Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin – Ann Thomas.

Llanwnnen – Elin Jones, Tynllyn wedi ei sefydlu fel Maer Tref Aberystwyth.

1998

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llŷn ac Eifionydd. Bardd y Gadair – Gareth Lloyd James, Maesteg, Cwmann. Enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes, – Janet Evans, Haulfryn.

Llambed – Cynog Davies, A.S. yn agor Ystafell Haul newydd yn Hafan Deg.

Ysgol Gyfun – Mrs Margaret Davies-Evans, Harford Row yn cyflwyno Cwpwrdd Arddangos i’r Ysgol er cof am Hefin Evans.

1999

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Llanbedr a’r Fro wedi cyrraedd. Arian yn dal i lifo i mewn.

Lluniau ac atgofion Eisteddfod 1959.

Cadair yr Eisteddfod – cyflwynwyd gan Gwmni Gwilym Price, ac a grëwyd ganddynt yn ogystal.

Dyma’r uchafbwyntiau a gyhoeddwyd gennyf hyd yma:

Chwefror

Mawrth

Ebrill

Mai

Fe ddaw uchafbwyntiau mis Gorffennaf cyn bo hir.