Blog Byw Eisteddfod CFfI Sir Gâr

Y diweddaraf o Gaerfyrddin

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Eisteddfod CFfI Sir Gâr heddiw.  Gallwch weld y diweddaraf yma.

9F03C0D3-9252-4B00-9D43

Enillodd Owain Davies o Glwb Llanllwni gystadleuaeth Stand Up yn yr eisteddfod wythnos ddiwethaf.  Llongyfarchiadau mawr iddo.

15:50

Meim Clwb Cwmann.  Llun: Dafydd Lewis.

15:37

Meim Clwb Cwmann.  Llun: Dafydd Lewis.

15:35

Meim Clwb Cwmann.  Llun: Dafydd Lewis.

15:24


Meim CFfI Llanllwni.  Llun gan Dafydd Lewis.

15:23

Siarcod Clwb Cwmann ar gyfer cystadleuaeth y Meim.  Llun: Megan Dafydd.

14:42

Tro CFfI Cwmnann yw hi nawr!

13:58

CFfI Llanllwni nawr yn cystadlu yn y Meimio i Gerddoriaeth!

13:52


Sioned Howells CFfI Llanlwni gipiodd y wobr gynta’ yn y Llefaru 28ain neu iau.

12:58

Un o ganlyniadau cynta’r dydd yw canlyniad y Ddawns Tiktok, sef cystadleuaeth gwaith cartref i unrhywun o dan 28 oed. Llongyfarchiadau i aelodau ifanc Dyffryn Cothi ar gipio’r wobr hon!

12:56

Llongyfarchiadau mawr hefyd i Trystan Evans o Glwb Dyffryn Cothi ar ddod yn gydradd drydydd yn yr Alaw Werin o dan 28 oed.