Mae Eisteddfod CFfI Sir Gâr heddiw. Gallwch weld y diweddaraf yma.
Enillodd Owain Davies o Glwb Llanllwni gystadleuaeth Stand Up yn yr eisteddfod wythnos ddiwethaf. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Llongyfarchiadau i Elen Medi Jones o Glwb Cwmann ar ennill y drydedd wobr yn creu erthygl am gyn-aelod o’r Clwb. Da iawn ti!
Rhagor o ganlyniadau gwaith cartref – enillodd Miriam Mathias, Dyffryn Cothi gystadleuaeth y limrig a chipiodd Ifan Davies o Ddyffryn Cothi y gystadleuaeth ffotograffiaeth i aelodau 28 ac iau.
Deuawd neu drawd doniol:
1 Penybont
2 Llanllwni
3 Dyffryn Cothi
Mae Parti deusain CFFI Penybont wedi cau’r cystadlu am eleni. Canlyniadau ola’ i ddod.
Llongyfarchiadau i Carwen George ar ddod yn 2ail yn yr unawd 28 ac iau, ac i Trystan Evans ar ddod yn 2ail yn yn yr unawd 16 ac iau y bore ’ma.
Sioned, Ifor a Hefin nawr yn diddanu. Carwen, Medwen a Deian, CFFI Dyffryn Cothi eisioes wedi cystadlu.
Mae Neuadd San Pedr bellach yn orlawn a’r gynulleidfa’n mwynhau anerchiad y llywydd Meirion Owen, yn ogystal a chystadlaethau poblogaidd yr Unawd Sioe Gerdd a’r deuawd/ dreiawd doniol.
A’r Prif lenor yw Sioned Bowen CFFI Llanllwni.
Prifardd yr Eisteddfod yw Carwen Richards CFfI Dyfryn Cothi. Llun gan Sulwen Richards.
Seremoni’r Cadeirio a Choroni wedi dechrau dan arweiniad Llywydd y Sir Mr. Elfyn Davies.