Blog Byw : Sioe Llanbed

Y diweddaraf o faes Sioe Llanbed 2022

gan Ifan Meredith

Ar ddydd Sadwrn cymylog yn Llanbed, cynhelir Sioe Llanbed ar gaeau Pontfaen. Dilynwch ac ychwanegwch at y blog byw yma am y diweddaraf o’r cae.

18:49

‘Mewn gêm fel hyn ry’ch chi’n dod i nabod eich ffrindie’

18:47

? ‘Ledis y Llan newydd blitzo hwna’ 

18:42

‘Left, right’ It’s a Knockout tu hwnt o gystadleuol ar gae Sioe Llanbed!

18:37

? : Mae ‘It’s a Knockout’ yn parhau…

18:33

‘Roun-robin’ nesa wedi dechrau. 

18:30

Yr ail ‘round-robin’ wedi dechrau. 

18:26

Dwy funud i gwblhau y ‘round-robin’ gyntaf. 

18:13

Gêm gyntaf- cystadleuaeth taflu wŷ heb ei dorri. 

18:10

Cystadlu ‘It’s a Knockout’ ar fîn dechrau ar Brif Gylch Sioe Llanbed gyda 5 tîm yn cystadlu. 

18:05

Defaid Mynydd Duon, Cwpan D A G Jones – M & D Evans, Y Fenni.

Unrhyw Frîd Mynydd arall, Cwpan y diweddar Hefin a Margaret Evans – Gethin Lloyd, Horeb.

Defaid Mynydd Cymreig, Cwpan Mr D Jones, Dai’s Diner – T R Davies, Clunderwen.

Wedi cael y fraint o gyflwyno cwpanau heddiw ar ran Gwen Jones y Llywydd.  Safon rhyfeddol.  Llongyfarchiadau i bawb.