Bydd Taith Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn ymweld â Cheredigion ar 30 Mehefin fel rhan o’i siwrne drwy Gymru a Lloegr yr haf hwn.
Un o’r rhai fydd yn cludo’r Baton yng Ngheredigion yw Anwen Butten, a gafodd ei henwebu am ei llwyddiant yn y byd bowlio. Anwen yw un o’r enwau amlycaf o Geredigion sydd wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad gan ennill Medalau Efydd yn 2002 a 2010. Fel aelod o Dîm Bowlio Cymru ar gyfer Gemau Birmingham 2022, fydd Anwen yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad am y 6ed tro.
Dyma’r unfed tro ar bymtheg i Daith Baton swyddogol y Frenhines gael ei chynnal ac mae’n cyd-fynd â Gemau’r Gymanwlad fydd yn digwydd yn Birmingham ym mis Gorffennaf.
Bwriad y daith yw dod â chymunedau ar draws y Gymanwlad ynghyd a’u dathlu yn ystod y cyfnod cyn y Gemau. Yng Nghymru, bydd Taith Baton y Frenhines yn rhoi cyfle i gymunedau brofi cyffro Birmingham 2022, wrth i’r 11 diwrnod o chwaraeon gwefreiddiol agosáu.
Bydd Taith Baton y Frenhines yn treulio pum diwrnod yng Nghymru gan ddechrau ar Ynys Môn ddydd Mercher 29 Mehefin cyn teithio tua’r de. Bydd yr ymweliad â Chymru yn dod i ben yn Abertawe ddydd Sul 3 Gorffennaf. Bydd y baton wedyn yn dychwelyd i Loegr gan ymddangos am y tro olaf yn seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham ar 28 Gorffennaf 2022.
Ar ôl cyrraedd Ceredigion, bydd Taith y Baton yn ymweld ag Aberystwyth a Chapel Bangor gan ymuno â thrafodaeth ynglŷn â newid hinsawdd gyda phlant ysgolion yr ardal a chwrdd ag athletwyr ‘Cardiau Aur’ Ceredigion, sydd wedi i’r brig mewn amrywiol gampau. Bydd y baton hefyd yn teithio ar drên stêm Rheilffordd Cwm Rheidol.
Dyma rai o’r gweithgareddau sydd wedi’u trefnu ar gyfer ymweliad y baton â Cheredigion:
- 14:00 – 14:20 – bydd Taith y Baton yn mynd o Ganolfan Hamdden Plascrug i Glwb Bowlio Aberystwyth (Plascrug)
- 14:30 – 15:30 – bydd Taith y Baton yn parhau gan fynd o Glwb Bowlio Aberystwyth (Plascrug) i Reilffordd Cwm Rheidol
- 15:45 – bydd Taith y Baton yn mynd ar y trên i Gapel Bangor
Bydd y Baton wedyn yn cael ei gludo o Gapel Bangor i Wersyll yr Urdd Llangrannog lle bydd yn aros dros nos cyn symud ymlaen i Sir Benfro ddydd Gwener 1 Gorffennaf.
Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i ymuno â’r dathlu a chroesawu ymweliad y Baton â’r sir. Y llefydd gorau yn Aberystwyth i brofi gwefr Taith Baton y Frenhines Birmingham 2022 fydd Plascrug, Ffordd Alexandra a Choedlan y Parc. Bydd gwefan Tîm Cymru yn cael ei diweddaru dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sydd i’w cynnal a’r mannau gorau i wylio taith y Baton.
Dywedodd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae croesawu’r Baton i Geredigion yn rhoi’r cyfle i ni ddangos ein sir ryfeddol i’r byd, dathlu ein hathletwyr llwyddiannus ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae’r unigolion a fydd yn cludo’r Baton wedi’u dewis am yr hyn y maent wedi’i gyflawni, eu cefndiroedd amrywiol a’u straeon ysbrydoledig ac maent yn cynnwys y rheiny sydd wedi’u cydnabod am eu cyfraniadau amhrisiadwy i’w cymuned leol, boed hynny drwy chwaraeon neu drwy eu gwaith gwirfoddol. Gwych iawn.”
Bydd y Baton yn teithio ar y tir, drwy’r awyr ac ar y môr gan fynd o ddinasoedd bywiog i drefi marchnad hanesyddol ac o gefn gwlad godidog i arfordiroedd hyfryd.
Mae’r Baton eisoes wedi ymweld â chenhedloedd a thiriogaethau’r Gymanwlad yn Ewrop, Affrica, Ynysoedd y De, y Caribî a gwledydd America. Y Deyrnas Unedig yw rhan olaf y daith a bydd y Baton yn treulio pum diwrnod yn yr Alban, pedwar diwrnod yng Ngogledd Iwerddon a phum diwrnod yng Nghymru. Bydd wedyn yn dychwelyd i Loegr am yr wythnosau diwethaf cyn dechrau Gemau’r Gymanwlad.