Canlyniadau TGAU cyntaf ers 2019.

Llongyfarch disgyblion Ysgol Bro Pedr am ganlyniadau TGAU.

gan Ifan Meredith


Llwyddodd 97.3% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau TGAU dderbyn graddau A* i G, wrth i 25.1% ennill graddau A* – A.

Mae ffigurau cymharol rhwng rhai cymedrol Ceredigion a Chymru i’w gweld isod.

Gradd A* – A

Ceredigion: 28.1%

Cymru: 25.1%

Gradd A* – C

Ceredigion: 77.1%

Cymru: 68.6%

Gradd A* – G

Ceredigion: 98.7%

Cymru: 97.3%

Mae canrannau Ceredigion ym mhob categori graddau yn uwch na chanrannau Cymru sy’n dangos y safon uchel o addysg sydd yn cael ei chynnig yng Ngheredigion

“Rydym ymfalchïo yn llwyddiant ein disgyblion. Er gwaethaf y trafferthion y mae’r disgyblion hyn wedi’u profi oherwydd y pandemig, maent wedi dangos llawer iawn o egni a chydnerthedd ac maent, gobeithio, yn falch o’r graddau y maent wedi’u hennill ar lefel TGAU. Edrychwn ymlaen at groesawu llawer o ddisgyblion yn ôl i’r chweched dosbarth ym mis Medi a hoffem hefyd ddymuno pob llwyddiant i’r disgyblion hynny sy’n mynd ymlaen i’r coleg neu’r byd gwaith yn y dyfodol. Diolch i’r disgyblion, y rhieni a’r athrawon am bob cymorth a chefnogaeth unwaith eto eleni” – Pennaeth Ysgol Bro Pedr, Mrs Jane Wyn.