Canolfan Tir Glas i gynnal darlith i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Mae’n bleser mawr gan Ganolfan Tir Glas gynnal darlith Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar gampws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar Fawrth 8fed am 4pm.

gan Lowri Thomas

Jane Powell fydd y wraig wadd yn cyflwyno’r ddarlith ‘Bwyd, Menywod a Chymuned – Food, Women and Community’, a wnaiff archwilio’r cysyniad hwnnw. Mae Jane yn chwarae rhan weithredol mewn prosiectau bwyd cymunedol yn Aberystwyth, ac mae’n gydlynydd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru. Pan yn gweithio yn y Ganolfan Organig Cymru yn 2015, gwnaeth Jane helpu arwain prosiect ymchwil gweithredol o’r enw Food Values, a wnaeth edrych ar sut mae systemau bwyd yn cael eu llunio gan ein gwerthoedd ni.

Meddai Jane Powell: “Mae set o werthoedd amlwg yn dod i’r blaen mewn mannau ar gyfer merched, yn enwedig rhai sy’n ymwneud â derbyngarwch, gofal a gwrando. Wrth i gymunedau traddodiadol gael eu disodli gan rai rhithwir, ac mae ein cymdeithas mewn perygl o dorri’n ddarnau, mae angen mwy o gynhesrwydd a chysylltu arnom. Mae prosiectau bwyd yn gyd-destun naturiol ar gyfer dod â phobl ynghyd ac adeiladu diwylliant newydd.’

Mae’r ddarlith yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau i ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol, yn ogystal â  thynnu sylw at brosiect Canolfan Tir Glas ar gampws Llambed.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig gweledigaeth uchelgeisiol a beiddgar ar gyfer Llambed a’r cyffiniau. Mae’n gynllun hir-dymor sy’n dibynnol, i raddau helaeth, ar gefnogaeth leol a chenedlaethol. Y gobaith yw bydd y datblygiad hwn yn sbarduno gweithgaredd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn yr ardal, gan chwistrellu bywyd ac egni o’r newydd i’r dref.

Bwriad y Brifysgol yw gweld Canolfan Tir Glas yn cynnal eco-system yn yr ardal a fydd yn cefnogi isadeiledd gwledig ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer hyrwyddo diwylliant gwydn gyda ffocws clir ar fwyd a lletygarwch. Bydd cynaliadwyedd wrth wraidd yr holl gynllun, gyda’r themâu yn treiddio trwy ei holl gydrannau.

Meddai Hazel Thomas, Cydlynydd  Canolfan Tir Glas: “Mae’n bleser mawr gan Ganolfan Tir Glas gynnal darlith Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar gampws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyda Jane Powell fel ein gwraig wadd. Mae Jane yn chwarae rhan weithredol mewn prosiectau bwyd cymunedol yn Aberystwyth a chyda changen Gymreig y Gymdeithas bermaddiwylliant, sef Paramaethu Cymru. Mae hi wedi bod yn helpu arwain prosiect ymchwil gweithredol o’r enw Food Values, sy’n edrych ar sut mae systemau bwyd yn cael eu llunio gan ein gwerthoedd ni.”

Caiff y ddarlith ei chynnal ddydd Mercher Mawrth 8fed yn yr Hen Neuadd, Campws Llambed ac ar-lein, gan ddefnyddio Zoom. Caiff y ddarlith ei chynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael.