Haelioni’r Nadolig i fanciau bwyd lleol

Cynghorwyr Plaid Cymru Ceredigion yn cyfrannu arian i fanciau bwyd lleol. 

gan Ifan Meredith
unnamed

Cynghorwyr Plaid Cymru Ann Bowen Morgan ac Eryl Evans yn cyflwyno siec i Sandra Jones a Beryl Williams gwirfoddolwyr ym Manc bwyd Llambed.

Yn yr wythnosau at y Nadolig, bu cynghorwyr Plaid Cymru yn cyfrannu arian at fanciau bwyd Penparcau, Aberaeron, Llanbed, Aberteifi ac yn Llandysul gan roi cyfanswm o £2000 i gefnogi gwaith anhygoel banciau bwyd Ceredigion.

Yn ystod cyfnod y Nadolig yng nghanol caledi ariannol sydd wedi gweld mwy o bobl nag erioed yn defnyddio’n banciau bwyd, mae hwn yn achos teilwng iawn fel esbonia arweinydd Grŵp Plaid Cymru Ceredigion, Bryan G Davies.

“Mae’n destun siom bod gyda ni fanciau bwyd yng Ngheredigion a bod cymaint o drigolion y Sir yn wynebu tlodi yn yr unfed ganrif ar hugain.  Mae’r cyfuniad o dorri cyson sydd wedi bod mewn gwario cyhoeddus o Lundain, cyflogau isel a chostau byw uchel yn gorfodi teuluoedd i gael help gyda pethe sylfaenol bywyd. Rydyn ni’n gwneud ein gorau fel Grŵp Arweiniol i helpu’r mwyaf anghenus yn y Sir ac fel cynghorwyr lleol yr ydym yn cefnogi mentrau fel banciau bwyd a mannau cynnes.”

unnamed
Cynghorwyr Plaid Cymru Ann Bowen Morgan ac Eryl Evans yn cyflwyno siec i Sandra Jones a Beryl Williams gwirfoddolwyr ym Manc bwyd Llambed.

Dywedodd Barry Swan, Trysorydd Banc bwyd Llambed:

“Rydym yn diolch i Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Ceredigion am eu rhodd hael o £400 tuag at waith y Banc Bwyd a diolch hefyd am roi rhodd hefyd y llynedd.  Diolch ar ran y bobl a’r teuluoedd niferus sy’n cael eu helpu ac mae i’w groesawu’n fawr- mae nifer y bobl sy’n gofyn am gymorth yn parhau i gynyddu yn anffodus. Cyfraniad o £400.”

Yn ystod y flwyddyn, mae Banciau Bwyd y Sir yn croesawu cyfraniadau ariannol neu fwydydd o bob math ac yn barod i estyn croeso i unrhyw wirfoddolwyr newydd.

Wrth i gostau cynyddol effeithio ar drigolion Ceredigion, mae croeso i unrhyw un sy’n teimlo’r straen ariannol fynd at eu banc bwyd lleol sydd yn groesawgar ac yn barod i helpu.

Er mwyn derbyn mwy o fanylion ynglŷn â’r banc bwyd agosaf atoch chi, sut i gael help neu sut i gyfrannu – dilynwch y linc hon:
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/gwybodaeth-ac-adnoddau-ar-gyfer-y-gymuned/banciau-bwyd-ceredigion/

Mae costau ynni hefyd ar gynnydd felly allai rai gweld gwresogi eu cartrefi yn anodd ond mae mannau croeso yn agored yn Llanbed.