Croesawu aelodau newydd i CFfI Bro’r Dderi.

Ydych chi eisiau nosweithiau llawn hwyl a sbri? Dewch i Glwb Bro’r Dderi.

gan Ifan Meredith
Dyma beth sydd ‘mlan da’r clwb dros y mis nesaf!

Ydych chi newydd ymuno â blwyddyn 7 neu yn yr ysgol uwchradd eisoes, neu efallai wedi symud nôl i’r ardal ar ôl bod yn coleg? Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Bro’r Dderi yn croesawu pawb rhwng 11 a 28 mlwydd oed i’r clwb.

Mae Clwb Bro’r Dderi yn cwrdd yn wythnosol ar nos Lun gan ddechrau ar y 12fed o Fedi yn Ysgol y Dderi, Llangybi dan gysgod Tŵr y Dderi ac oddi yma daw enw a logo’r clwb.

Mae gan y clwb lu o weithgareddau ar eich cyfer a sawl sgil am oes i’w dysgu.

Sefydlwyd y Clwb yn y flwyddyn 2003 ac felly yn edrych ymlaen at ddathlu’r 20 mlynedd flwyddyn nesaf.

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am Glwb Bro’r Dderi neu â diddordeb yn ymuno, cysylltwch â’r Clwb ar Facebook neu Trydar neu cysylltwch â chadeirydd y clwb, Ifan Meredith ar Facebook neu Instagram.

Dyma restr lawn o swyddogion y clwb ar gyfer y flwyddyn 2022/23:

Cadeirydd- Ifan Meredith
Is-gadeirydd- Martha Thomas
Ysgrifennydd- Lisa Evans
Trysorydd- Carys Jones
Ysgrifennydd Cofnodion- Betrys Llwyd Dafydd
Cydlynnydd Rhaglen- Martha Thomas