Llwyth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i deimlo ysbryd y Nadolig.
Am noson hyfryd yn Llanbed. Awyrgylch Nadoligaidd hudol gyda’r siopau lleol yn agor eu drysau am noson siopa hwyr.
Y strydoedd yn fwrlwm o bobl gan gynnwys teuluoedd a phlant yn galw i weld Sion Corn yn Lois Designs. Yr actores Gillian Elisa yn cynnau goleuadau’r Goeden Nadolig ar Sgwâr Harford ac Ifan Evans yn darlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru.
Y tywydd yn sych ac yn oer. Noson ddelfrydol i gerdded o gwmpas a chloncan gyda hwn a’r llall. Stondinau amrywiol yn gwerthu coed Nadolig ac anrhegion gwahanol yn llanw’r Stryd Fawr, reidiau bach y ffair i’r plant, lori ddeniadol Castell Hywel a’r frigad Dân yn atyniadau ychwanegol.
Stondinau a chaffis yn gweini bwydydd blasus a gwin poeth a’r cyn ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens yn arwyddo ei lyfr yn y Pantri. Heb son am yr adloniant byw o garolau traddodiadol gan Gôr Meibion Cwmann a’r cylch i ganeuon Nadolig bywiog Clwb Iwcalili Llanbed. Ac i goroni’r cyfan y chwedlonol Ivor Williams yn ei rol fel Cyhoeddwr y Dref yn cadw trefn.
Os na fuoch chi yno, fe golloch chi mas. Ond diolch i bawb a gydweithiodd er mwyn dangos tref Llanbed ar ei gorau ar dechrau mis Rhagfyr yn hwyl yr Ŵyl go iawn.
Clwb Iwcalili Llanbed yn perfformio detholiad o caneuon Nadolig ar y Stryd Fawr.
Côr meibion Cwmann a’r cylch yn diddanu’r dorf.
Gwynfor gydag Ivor Williams Cyhoeddwr y Dref.
Gilian Elisa (a Cariad) yn troi golau’r goeden Nadolig ymlaen!
Cyhoeddi mai John Francis sydd yn fuddugol yng nghystadleuaeth addurno ffenest siop.
Agor noson siopa hwyr Llanbed yn swyddogol.