’Roedd Festri Brondeifi dan ei sang ddechrau Ebrill i groesawu Elin Jones a Ben Lake yn ôl i Gangen Plaid Cymru Llanbed. Mae’r ddau’n gweithio’n galed dros etholwyr Ceredigion, Elin yn Aelod Senedd a Llywydd Senedd Cymru yng Nghaerdydd a Ben yn Aelod Seneddol yn San Steffan, Llundain. Braf oedd cael clonc gyda’r ddau a derbyn diweddariad ganddynt am eu gwaith.
Artistiaid y noson oedd y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts o’r grŵp poblogaidd Brigyn. Nid dyma’r tro cyntaf i Brigyn ddiddanu Cangen y Blaid a sawl un yn y gynulleidfa ag atgofion melys o’i hymweliad yn 2014. ’Roedd gitâr Ynyr a phiano Eurig a’u lleisiau hudolus yn swyno pawb a sawl llaw a throed yn symud yn reddfol i’w caneuon melodaidd. Mae ‘Geiriau’, ‘Os na wnei di adael nawr’, ‘Y Sgwâr’ (eu teyrnged i Johnny Owen, y bocsiwr o Ferthyr) ac ‘Haleliwia’ (eu fersiwn o gân fyd enwog ‘Hallelujah’ Leonard Cohen) yn ganeuon mor eiconig. Cafwyd cefndir sawl cân gan Ynyr gan gynnwys y gân ‘Anna’ sydd â chysylltiad gyda Llanbed. Cewch wybod mwy am y cysylltiad yng nghyfweliad Clonc360 wnaed wedi’r cyngerdd gydag Ynyr ac Eurig a gyda Densil Morgan (Cadeirydd) ac Ann Bowen Morgan (Swyddog Gweithgareddau). Cewch flas o’r gân ‘Ann’ yn y ffilm wnaed o Ynyr ac Eurig yn ei chanu yn y cyngerdd.
Diolch yn fawr i bawb wnaeth gefnogi’r noson, i Brigyn am gyngerdd cofiadwy ac i Elin Jones a Ben Lake am eu cwmni a’u cefnogaeth. Diolch i bob un wnaeth gyfrannu’r cacennau blasus a’r gwobrau at y raffl ac i Festri Brondeifi am leoliad mor hwylus. Diolch yn arbennig i Ann Bowen Morgan, Densil Morgan, Eleri Thomas, Shân Jones a Rhys Bebb Jones am y trefniadau.
Gwyliwch y cyfweliad isod yn ogystal a blas o’r noson.