Datblygiad arloesol ym Mro Pedr

Cyfweliad ecsgliwsif gyda Dr Rhys Thomas i ni ddysgu mwy am ei waith.

gan Ifan Meredith

Mae’r ysgol wedi cynhyrchu dros 1,500 o fisors ers cychwyn y pandemig ac mae yna dri ffilter yn weithredol mewn dosbarthiadau ar hyn o bryd.

Un o’r dosbarthiadau yma lle mae’r ffilter yn weithredol yw’r dosbarth cerddoriaeth a welir yma wrth ei waith.

Daeth enw Dr Rhys Thomas yn enw cyfarwydd i ni yma yng Nghymru ar ddechrau’r pandemig nôl yn 2020 pan wnaeth ddatblygu peiriant cynorthwydd anadlu (ventilator) argyfwng a gafodd ei adnabod fel Covid-19 C-PAP. Ond beth fydd ei sialens nesaf…?

Dyma gyfweliad ecsgliwsif gyda Dr Rhys Thomas i ni ddysgu mwy am ei waith.

Yn ymgynghorwr anaesthetig arbenigol yn Ysbyty Glangwili, dechreuodd ei yrfa dyfeisio pan gafodd ei herio gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price i ddyfeisio peiriant symlach ond yr un mor effeithiol â chynorthwydd anadlu arferol.

Bu Adran Dylunio a Thechnoleg, Ysgol Bro Pedr yn lwcus iawn o gael ymweliad gan y Dr Rhys Thomas yn ddiweddar. Wrth ei gyfweld, darganfyddwyd ei fod ar hyn o bryd yn brysur yn ceisio dosbarthu ei ddatblygiad diweddaraf ledled Cymru a thu hwnt sef purwr aer. Bu’r ysgol yn ddigon lwcus i gael cip-olwg ar sut i’w gynhyrchu.

Mae’r purwr aer yma yn defnyddio ffilterau a ffan i sicrhau aer ffres mewn ardaloedd cyfynedig tu fewn gan gynnwys ystafelloedd dosbarth. Mae 1,154 medr ciwb o aer brwnt yn cael ei amsugno trwy’r ffilterau bob awr gan waredu cronynnau firysau a bactreia gan gynnwys COVID o’r aer.

Mewn ymateb, medd pennaeth adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Bro Pedr, Mr Aled Dafis, bod y dechnoleg syml yma yn “ffordd arbennig o sicrhau aer glân mewn dosbarthiadau, ac yn galluogi disgyblion i ddeall a chreu offer fydd yn eu cadw’n iachach yn y tymor hir. Roedd yn fraint cydweithio gyda Dr Rhys ar y prosiect.”

Mae pennaeth yr ysgol, Mrs Jane Wyn yn credu ei fod “yn brosiect cyffrous iawn a’r adran DT wedi bod ar flaen y gâd wrth wneud fisors i weithwyr allweddol yn ystod 2020 a nawr yn ceisio gwella ansawdd yr aer o fewn ein dosbarthiadau.”

Felly, beth yw ei ddyfeisiad nesaf? Gwyliwch y cyfweliad ecsgliwsif gyda Dr Rhys Thomas sy’n trafod y datblygiadau gwyddonol a thechnolegol yn ystod cyfnod COVID:

Dyma fideos hefyd i ddangos i chi sut mae datblygu’r ddyfais yn y Gymraeg:

a’r Saesnaeg: