Bydd yna ddathliad ym mhentref Llanybydder ar Fehefin 25ain gan fod ‘Cwmni’r Brodyr Evans’ wedi bod mewn busnes ers 127 o flynyddoedd.
Bwriadwyd dathlu dwy flynedd yn ôl ond gyda’r feirws yn lledu’n gyflym, rhaid oedd gohirio’r trefniadau.
Sefydlwyd y cwmni yma ym 1895 gan John Morgan Evans a’i frawd Daniel Charles Evans, Dolau Uchaf, Llanybydder. Yn dilyn marwolaeth John ym 1931, ymunodd y ddau frawd arall â’r busnes, sef Thomas Roderick Evans (TR) a Dafydd Evans. Ar ôl yr ail ryfel byd, daeth mab Dafydd sef Charles neu Charlie Ocsiwnïer, fel oedd pawb yn ei adnabod, ac ychydig yn hwyrach Hefin Evans, yn bartneriaid a datblygodd y busnes yn sylweddol.
Gwelwyd dechreuad y Busnes Gwerthu Tai gyda swyddfeydd yn agor yn Aberaeron, Llambed a Chaerfyrddin. Ym 1997, daeth meibion Hefin, sef Mark a Cambell, yn bartneriaid ac erbyn hyn, mae David Davies o Aberaeron wedi ymuno â nhw hefyd.
Felly nos Sadwrn yma, dewch draw i Lanybydder erbyn 7yh i ddathlu llwyddiant busnes y Brodyr Evans gyda ni. Bydd Clive Edwards, Dusty Road a Chôr Lleisiau’r Werin yno i’n diddori. Hefyd, bydd ‘Hog Roast’ a bar, digonedd o fiwsig a Rodeo Bull yno ar ein cyfer. Ceir ocsiwn yn ogystal gyda’r elw yn mynd tuag at RABI.
Felly, mae’n argoeli i fod yn noson dda iawn. Pris y tocynnau yw £10. Os hoffech fwy o hanes am y Brodyr Evans, mynnwch gopi o rifyn mis Mehefin Papur Bro Clonc.