Dathlu 125 mlynedd o gwmni Evans Bros

Y mart yn orlawn ar gyfer y dathliad neithiwr

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Neithiwr cynhaliwyd noson o ddathliad ym Mart Llanybydder bod cwmni y Brodyr Evans wedi cyflawni 125 o flynyddoedd mewn busnes. Roedd bar, bwyd, ocsiwn ac adloniant ac ar ôl misoedd o drefnu, roedd yn braf gweld pawb yn mwynhau a’r lle yn orlawn.

Gwerthwyd nifer rhyfeddol o docynnau, dros 500 i gyd.  Cafwyd ocsiwn llwyddiannus iawn ac fe godwyd £13,000 at elusennau RABI, Tir Dewi, a DPJ – tair elusen deilwng o fewn y gymuned amaethyddol. Diolch i bawb a gyfrannodd eitemau at yr ocsiwn ac i bawb fuodd yn cynnig.

Diolch i bawb fuodd wrthi’n trefnu ac i bawb wnaeth gyfrannu at lwyddiant y noson.

Ymlaen i’r 125 mlynedd nesaf!