Mae’r gyfres o weithdai garddio am ddim yn wythnosol yn parhau ar ddydd Iau. Dewch i ddysgu sut i dyfu cynnyrch yn organig heb wario gormod o arian. Mae grŵp o ddeg yn cyfarfod ar foreau Iau rhwng 10.00 a 12.00. Ceir gweithdy arall rhwng 1.00 a 3.00 pnawn Iau ac mae dal llefydd ar ôl i chi ymuno ynddynt.
Hyfryd fu cael cwmni Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion yn San Steffan yn un o’r gweithdai. Dysgodd am rinweddau perlysiau megis mintys a llysiau’r bara a thyfu pys, ffa a letys. Braf hefyd fu cael cwmni Karen Thomas o Gangen Llanbed o Gymdeithas Adeiladu’r Principality a hefyd Tom Bright, Rheolwr Rhanbarthol gyda’r Principality yn rhai o’r gweithdai. Mawr yw’r diolch i Gymdeithas Adeiladu’r Principality am eu cefnogaeth ariannol tuag at gynnal y Gweithdai Garddio. Mae’n rhan o’u cefnogaeth hael yn cefnogi digwyddiadau cymunedol yng Nghymru. Gobeithio byddent yn parhau i gefnogi’n ariannol y Gweithdai Garddio cymunedol tan arweiniad Kim Stoddart yn Creuddyn.
Kim Stoddart, un o hyfforddwyr elusen ‘Garden Organics’ sy’n arwain y gweithdai. Mae’n byw yng Ngheredigion ac yn awdur llyfrau ac erthyglau sy’n trafod sut i dyfu cynnyrch yn organig. Mae hefyd yn dysgu eraill i arddio’n organig trwy gydweithio gyda byd natur. Cewch wybod mwy am ei gwaith, yn cynnwys ei gwaith gydag ieuenctid a’r rhai gydag anghenion dysgu arbennig, trwy ymweld â’i gwefan.
Mae’r elusen ‘Garden Organics’ yn cynorthwyo eraill i dyfu eu cynnyrch yn organig ac yn cynnig gwybodaeth a chyngor ymarferol. Yn y gweithdai mae Kim yn dangos sut i blannu a gofalu am blanhigion o bob math – a chael hwyl wrth wneud hynny. Mae’n darparu’r holl ddeunyddiau angenrheidiol, yn offer, potiau, gwrtaith a phlanhigion. Dysgwyd eisoes am rinweddau gwahanol berlysiau a sut i dyfu gwahanol lysiau a ffrwythau.
Os ydych am ymuno yn y gweithdai garddio hyn, cysylltwch gyda Mel Thomas, Swyddog Cyfleusterau Creuddyn. Ei chyfeiriad e-bost yw creuddyn@barcud.cymru a’i rhif ffôn yw 01570 421795. Os na allwch ymuno yn y gweithdai hyn ond am wybod mwy am weithgareddau eraill a drefnir ac am y cyfleusterau arbennig yng Nghanolfan Creuddyn, cysylltwch gyda Mel Thomas.