Diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

Uchafbwyntiau’r dydd o Dregaron

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
8F23901A-2CC7-4E0E-9675

Nia Wyn Davies yn croesawu eisteddfodwyr yn y Cwt Gwybodaeth.

Fyddwch chi’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw? Ychwanegwch eich lluniau yma plis.

16:10

Digon o amrywiaeth o fwyd i’w gael ar faes yr Eisteddfod- mae rhywbeth at ddant pawb!

16:02

Côr Seingar yn cystadlu.

15:59

Côr Hafodwenog yn cystadlu yng nghystadleuaeth Eisteddfodau Cymru. 

15:41

Mae gered ma!  Gwilym yn perfformio ar Lwyfan y Maes.

15:19

Staff Cegin Ysgol Bro Pedr yn paratoi Te a choffi ym Mhabell Cyngor Sir Ceredigion. 

15:18

Cymdeithasau 2 yn llawn ar gyfer Cyflwyniad am hanes Undodiaid y Smotyn Du.

14:07

Criw Iwcaleli Aberystwyth yn perfformio ym Mhabell Cered.

14:05

Swyn Efa Tomos yn agor cystadleuaeth y Monolog 12-16 an y Pafiliwn! ‘Cathe’ oedd ei darn gan Heiddwen Tomos.

13:47

Mary a Nia, dwy o wirfoddolwyr Clonc yn stiwardio ym Mhabell y Papurau Bro.

13:43

Cyflwyniad Clera, Arad Goch yn crwydro’r maes.