Yn ystod y gwasanaeth fore Sul, croesawodd y Parch. Densil Morgan y gynulleidfa a chyflwyno’r pregethwr gwadd, y Parch. Peter Thomas.
Y Parch. Densil Morgan
Y Parch. Peter Thomas
Elan Jones
Yna, am 7 yr hwyr, daeth 5 i gystadlu yng nghystadleuaeth ‘Llais Llwyfan Llanbed’ yn Hen Neuadd y Brifysgol.
Y dasg oedd i baratoi rhaglen amrywiol heb fod hwy nag 20 munud a oedd yn cynnwys un gân gan gyfansoddwr Cymreig i’w chanu yn y Gymraeg. Arweinydd y noson oedd Rhiannon Lewis a’r cyfeilydd oedd Rhiannon Pritchard.
Llinos Haf Jones o Benarth oedd yn fuddugol ac yn derbyn tlws yn rhoddedig gan Emlyn Davies a’r teulu, er cof am Elwyn ac Ina Davies.
Yn ail, roedd Ffion Mair Thomas a dderbyniodd £1,000 yn rhoddedig gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Yn derbyn £500 yn rhoddedig gan Gyngor Sir Ceredigion am ddod yn drydydd oedd Sara Davies yn enedigol o Hen Golwyn ond bellach yn byw ym Mhren-gwyn.
Roedd Lois Wyn o Rydymain yn bedwerydd a derbyniodd £250 yn rhoddedig gan Gyngor Tref Llanbed.
Roedd pumed wobr hefyd o £125 i Gwennan Mars Lloyd.
“Cyngerdd o gystadlu ond siomedig o’r niferoedd” – Robyn Lyn Evans.
Seremoni arall yn ystod y noson oedd cyhoeddi’r emyn dôn fuddugol i’r geiriau “Am Heddwch Byd” gan John Meurig Edwards. Yn fuddugol oedd y dôn “Llangrannog” gan Dr Godfree Williams neu yn ôl ei enw barddol, Pen Cerdd Dyfrdwy, o Bontgysyllte ac enillodd gystadleuaeth cyfansoddi emyn dôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ddechrau’r mis.
Llywydd y noson oedd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a Llanbed.
“Edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Eisteddfod yn ariannol ac yn ymarferol” – Gwilym Dyfri Jones.
Yn ôl y traddodiad, daeth y noson i ben wrth i bawb ganu’r emyn cyntaf i ennill y gystadleuaeth uchod sef Pantyfedwen.
Cafwyd diwrnod hwylus ac edrychir ymlaen at ddiwrnod arall o gystadlu brwd o 11:15 yn Neuadd Celfyddydau y Brifysgol heddiw.