Dydd Iau o Faes yr Eisteddfod

Bore cymylog ond digon o gystadlu a gweithgareddau’r maes i ddod yma.

gan Ifan Meredith

Ydych chi’n ymweld â’r Eisteddfod heddi’? Ychwanegwch luniau a fideos o’ch dydd plîs.

22:14

Ar ôl cloi Maes B nithwr (neu bore ’ma), cloi Gig y Pafiliwn wnaeth Gwilym heddiw.
Cyn Gwilym, bu Alffa, Adwaith a Mellt yn diddanu Pafiliwn oedd bron yn llawn.

18:24

Disgyblion Ysgol Bro Pedr ymhlith Côr Bl. 7, 8 a 9 Ysgolion Ceredigion yn canu yn Seremoni’r Fedal Ddrama y prynhawn ma.

17:27

Disgyblion Bro Pedr wedi bod yn cymryd rhan yng Nghôr Ysgolion Ceredigion. 

17:11

Côr Bl. 7, 8 a 9 Ysgolion Ceredigion yn canu yn y Seremoni. 

16:56

Dy Fam, neu Gruffydd Siôn Ywain o Lundain yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022. Roedd gan y gystadlaeuaeth ‘ystod o botential’ wedi annogaeth gan y beirniaid i’r 15 ag ymgeisiodd i gario ymlaen i ysgrifennu.

16:55

9DC03583-237D-4806-B82D

Gruffydd Siôn Ywain o Lundain yw enillydd y Fedal Ddrama. 

16:38

Seremoni y Fedal Ddrama. 

16:33

I rhai hynny sydd yn sefyll yn y Maes Carafanau’r Eisteddfod rydych siwr o fod wedi bod yn y Siop sydd yn cael ei redeg gan Llyr Thomas, Siop Premier, Llambed ac hefyd braf gweld cwmni lleol Llaeth Llanfair yno hefyd. 

16:15

‘Y Byd yn ei Le’ nôl ar S4C ddiwedd Medi gyda Catrin Hâf Jones a Richard Wyn Jones yn cyflwyno, NID Guto Harri. Daw gyn ar ôl sgwrs ddifyr iawn am ddyfodol Newyddiaduraeth Gymraeg gyda Gwenfair Griffith yn cadeirio a’r panel, Geraint Evans o S4C, Delyth Isaac o’r BBC a Branwen Thomas o ITV Cymru.

16:13

Canlyniad Côr Dysgwyr gyda rhwng 13 a 40 mewn nifer:

1. Côr Dysgwyr Ceredigion

2. Côr DAW

3. Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro

4. Côr Cyd Aberystwyth