Dydd Iau o Faes yr Eisteddfod

Bore cymylog ond digon o gystadlu a gweithgareddau’r maes i ddod yma.

gan Ifan Meredith

Ydych chi’n ymweld â’r Eisteddfod heddi’? Ychwanegwch luniau a fideos o’ch dydd plîs.

16:13

Canlyniad Côr Dysgwyr gyda rhwng 13 a 40 mewn nifer:

1. Côr Dysgwyr Ceredigion

2. Côr DAW

3. Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro

4. Côr Cyd Aberystwyth

16:11

516C5DD0-6281-436F-820E
50690502-9B66-47B5-B33A

Cofio am ddau weinidog

16:07

Canlyniad Côr Merched heb fod llai nag 20 mewn nifer:

1. Aelwyd y Neuadd Fach

2. Ysgol Gerdd Geredigion

15:48

Côr Ceredigion yn agor y gystadleuaeth Côr i Ddysgwyr. 

15:00

Nid yw Cymru ar werth.

Neges Cymdeithas yr Iaith i Lywodraeth Cymru wrth iddynt alw am ddeddf eiddo.

14:35

256B1755-97CE-4A5F-B2DD
04C2A6F1-5999-4586-9418

CANLYNIADAU:

Unawd Soprano: 1af – Sara Davies

Unawd Bariton: 3ydd – Kees huysmans

13:58

Nanw a Tirion yn diddanu ym Mhabell yr Undodiaid.

12:50

Kees Huysmans, Llanbed yn cystadlu ar yr Unawd Bariton / Bas 26 oed a thosodd.

12:32

Ben Lake yn cael ei gyflwyno fel Llywydd yr ŵyl. 

12:23

Elin Jones, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn cyflwyno llywyddion anrhydeddus yr Eisteddfod sef Bethan Bryn, Delyth Hopkins Evans, Rhiannon Lewis, Owain Schiavone a Nellie Jones, a Ben Lake fel Llywydd y Dydd.