Ydych chi am fentro i faes yr Eisteddfod? Os ydych, ychwanegwch luniau, fideos neu ysgrifen i’r blog byw yma plîs.
Côr Hen Nodiant o Gaerdydd yn 1af
Côr Encore, Sir Fôn yn 2il
Côr Nefi Blw o Gaerdydd yn 3ydd
Dim lwc i Bytholwyrdd heddi. Tro nesa’.
Iestyn Evans yn traddodi’r feirniadaeth y Côr 60+.
Meinir Pierce Jones o Morfa Nefyn yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen.
Côr Bytholwyrdd yn cystadlu prynhawn ma mewn cystadleuaeth o bedwar côr i rai 60 oed a thosodd.
Côr Blwyddyn 5 a 6 Ysgolion Ceredigion yn barod i ganu yn Seremoni Daniel Owen.
Cyfweliad gyda ennillydd Cadair Capel y Groes, Elen Morgan.
Elen Morgan a Mererid Hopwood.
Elen Morgan, Drefach, Llanybydder yn ennill cadair Eisteddfod Capel y Groes ym Mhabell yr Undodiaid heddiw.
Ei ffugenw oedd Ar chwal ac ysgrifennodd stori am Tim Jones y Crudd. Y beirniad oedd Mererid Hopwood ac arweiniwyd y seremoni gan Manon Lowtre.
Pabell yr Undodiaid yn barod ar gyfer seremoni Cadeirio Eisteddfod Capel y Groes!
Côr Bytholwyrdd yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth Côr 60+. Pob lwc i chi.
Rhiannon yn arwain a Lois yn cyfeilio.