Cystadleuaeth i chi ddyfalu beth mae Dafydd yn ei ddisgrifio i weddill y bechgyn?
Gyda lleoliad newydd yn Neuadd Celfyddydau y Coleg, mae llwyfan Eisteddfod RTJ (Pant-y-fedwen) Llanbedr Pont Steffan yn barod am gystadlu dros ŵyl y banc.
Llio Hledd Owen o Dreforys oedd y bardd ifanc a enillodd cystadleuaeth y Gadair o dan 25 oed heddiw.
Elain Roberts o Gei Newydd a enillodd y Tlws Ieuenctid o dan 25 oed am waith rhyddiaith.
IMG_8310Pwy sydd angen ‘Big Tribute’ Aberystwyth? Dewch i Eisteddfod Llanbed!
Bwrdd yr ysgrifennyddion
Beirniaid yn barod i gyd-feirniadu Sgen ti Dalent?
Cystadleuaeth Llefaru i gyfeiliant agored.
Cyfweliad â Jo Heyde, bardd y goron yn Eisteddfod Llanbed heddiw.
Dyma fardd rhyfeddol. Nid oedd wedi darllen barddoniaeth o’r blaen yn Saesneg heb sôn am y Gymraeg ond ar ddiwedd 2020 yn ystod y cyfnod clo, darganfyddodd y podlediad Clera ac ymunodd ag Ysgol Farddol Caerfyrddin mewn sesiynau rhithiol.
Erbyn hyn mae’n llunio cerddi’n y Gymraeg a llongyfarchwn hi’n gynnes am ennill cystadleuaeth y Goron heddiw.
Bardd y Goron – Jo Heyde o Lundain yn wreiddiol a ddechreuodd ddysgu Cymraeg tua diwedd 2018. Dyma hi yn codi o blith y gynulleidfa yn Eisteddfod Llanbed heddiw.
- Parti Llefaru agored. Parti Sarn Helen Bach yn cystadlu.
Criw Pam Lai yn paratoi i gystadlu mewn sawl cystadleuaeth.
Dylan Lewis yn cyfweld â enillydd y Goron.