Dydd Sadwrn Eisteddfod RTJ Llanbed

Dilynwch y blog byw am y diweddaraf o’r Eisteddfod.

gan Ifan Meredith

Gyda lleoliad newydd yn Neuadd Celfyddydau y Coleg, mae llwyfan Eisteddfod RTJ (Pant-y-fedwen) Llanbedr Pont Steffan yn barod am gystadlu dros ŵyl y banc.

20:32

Bardd y Goron – Jo Heyde o Lundain yn wreiddiol a ddechreuodd ddysgu Cymraeg tua diwedd 2018.  Dyma hi yn codi o blith y gynulleidfa yn Eisteddfod Llanbed heddiw.

20:23

  1. Parti Llefaru agored. Parti Sarn Helen Bach yn cystadlu.

19:48

Criw Pam Lai yn paratoi i gystadlu mewn sawl cystadleuaeth. 

Dylan Lewis
Dylan Lewis

Cystadleuaeth i chi ddyfalu beth mae Dafydd yn ei ddisgrifio i weddill y bechgyn?

Dylan Lewis
Dylan Lewis

Beth sydd gan Huw yn ei botel?

Mae’r sylwadau wedi cau.

19:47

Dylan Lewis yn cyfweld â enillydd y Goron.

19:33

Dawns Flodau yn seremoni’r Coroni gan ddisgyblion Ysgol y Dderi.

19:08

Cystadleuaeth y Goron

Arweinydd y seremoni: Dorian Jones

Beirniad: Ceri Wyn Jones

Tasg: Casgliad o gerddi rhydd ar y testun “Difyrion”.

Y Goron yn rhoddedig gan Gyngor Sir Ceredigion o waith Rhiannon

Tregaron, ynghyd â £200 yn rhoddedig gan Gyfrinfra Ffynnonbedr.

Cafwyd cystadleuaeth o 12 bardd.

18:34

3 deuawd yn cystadlu yn y ddeuawd dan 21. 

18:23

Rhys Bebb-Jones yn cyflwyno Llywydd y Dydd, Llinos Jones.

17:52

Mrs Llinos Jones, Llywydd y dydd.

16:51

‘Ymdaith’ wedi codi o blith y gynulleidfa i ennill y Gadair o dan 25 – sef Heledd o Dreforys.