Dydd Sadwrn Eisteddfod RTJ Llanbed

Dilynwch y blog byw am y diweddaraf o’r Eisteddfod.

gan Ifan Meredith

Gyda lleoliad newydd yn Neuadd Celfyddydau y Coleg, mae llwyfan Eisteddfod RTJ (Pant-y-fedwen) Llanbedr Pont Steffan yn barod am gystadlu dros ŵyl y banc.

21:26

Beirniaid yn barod i gyd-feirniadu Sgen ti Dalent?

21:15

Cystadleuaeth Llefaru i gyfeiliant agored. 

20:45

Cyfweliad â Jo Heyde, bardd y goron yn Eisteddfod Llanbed heddiw.

Dyma fardd rhyfeddol.  Nid oedd wedi darllen barddoniaeth o’r blaen yn Saesneg heb sôn am y Gymraeg ond ar ddiwedd 2020 yn ystod y cyfnod clo, darganfyddodd y podlediad Clera ac ymunodd ag Ysgol Farddol Caerfyrddin mewn sesiynau rhithiol.

Erbyn hyn mae’n llunio cerddi’n y Gymraeg a llongyfarchwn hi’n gynnes am ennill cystadleuaeth y Goron heddiw.

20:32

Bardd y Goron – Jo Heyde o Lundain yn wreiddiol a ddechreuodd ddysgu Cymraeg tua diwedd 2018.  Dyma hi yn codi o blith y gynulleidfa yn Eisteddfod Llanbed heddiw.

20:23

  1. Parti Llefaru agored. Parti Sarn Helen Bach yn cystadlu.

19:48

Criw Pam Lai yn paratoi i gystadlu mewn sawl cystadleuaeth. 

Dylan Lewis
Dylan Lewis

Cystadleuaeth i chi ddyfalu beth mae Dafydd yn ei ddisgrifio i weddill y bechgyn?

Dylan Lewis
Dylan Lewis

Beth sydd gan Huw yn ei botel?

Mae’r sylwadau wedi cau.

19:47

Dylan Lewis yn cyfweld â enillydd y Goron.

19:33

Dawns Flodau yn seremoni’r Coroni gan ddisgyblion Ysgol y Dderi.

19:08

Cystadleuaeth y Goron

Arweinydd y seremoni: Dorian Jones

Beirniad: Ceri Wyn Jones

Tasg: Casgliad o gerddi rhydd ar y testun “Difyrion”.

Y Goron yn rhoddedig gan Gyngor Sir Ceredigion o waith Rhiannon

Tregaron, ynghyd â £200 yn rhoddedig gan Gyfrinfra Ffynnonbedr.

Cafwyd cystadleuaeth o 12 bardd.

18:34

3 deuawd yn cystadlu yn y ddeuawd dan 21.