Ai dyma’r ‘freebie’ gorau sy’n achub bywydau?

Enw ymgyrch newydd y clybiau Rotari yw ‘Neges mewn potel’ ond beth ywmr neges yn y botel?

gan Ifan Meredith

Wrth siarad â Rob o’r clybiau Rotari, eglurodd pam bod y poteli plastig yma yn ddyfeisiad arloesol. Daw’r syniad yma o Abertawe ac maent wedi tyfu i fod yn rhywbeth dros Gynru gyfan.

‘arbed amser ac i achub bwywddau’.

Mae’n ymddangos yn rhwydd i’w defnyddio gan mai dim ond angen ysgrifennu eich manylion iechyd ar y daflen ac yna ei roi yn y botel ac yna yn galluogi’r Gwasanaeth Ambiwlans i ddarganfod problemmau iechyd cleifion yn rhwyddach. O fewn y poteli hefyd mae dau sticr â chroes werdd i gyfeirio’r criw argyfwng i’r oergell lle gallant weld y poteli yma ac achub bywydau.

Mae’n werth nodi bod y poteli yma ar gael AM DDIM o babell y Rotari.
Daw’r cynllun yma o’r Rotari ac maent yn trio eu rhoi allan i feddygfeydd. Mae’r taflenni yn ddwyieithog hefyd.