Fe fydd mwy nag un Gadair a Choron yn cael eu cyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni.
Mae Eisteddfod Capel y Groes, Llanwnnen, yn parhau i dorri tir newydd trwy gynnal dwy gystadleuaeth fawr – a’r gwobrau yn cael eu cyflwyno ar Faes y Genedlaethol.
Fe fydd llenor ifanc yn ennill Cadair a £100 ac fe fydd digrifwr ifanc yn ennill Coron liwgar unigryw am ddweud jôc.
Mae’r beirniaid yn rhai cenedlaethol hefyd – y Prifardd a’r Prif Lenor Mererid Hopwood sy’n beirniadu’r llenyddiaeth a’r Prif Ddigrifwr Ifan Tregaron yn dewis y gorau o’r jôcs.
Dyma fanylion y cystadlaethau:
- Cadair a £100 dan 21 oed. Darn o ryddiaith neu farddoniaeth ar y thema ‘Breuddwyd’. I’w cyflwyno’n ddigidol
- Y Goron Gomic dan 12 oed. Dweud jôc. I’w chyflwyno ar fideo ar-lein.
- Y cynigion i’w hanfon at: eisteddfodcapelygroes@outlook.com, neu gallwch anfon fideos o’ch jôc dros Facebook Messenger @Eisteddfod Capel y Groes
- Dyddiad cau: Gorffennaf 1af 2022
Fe fydd y ddwy wobr yn cael eu cyflwyno ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Parhau i arloesi
Ar ddechrau’r clo mawr cynta’, Eisteddfod Capel y Groes oedd y gynta’ i gynnal gŵyl ddigidol, ar-lein, gan ddangos y ffordd i wyliau eraill, llawer mwy gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd. Roedd hynny’n cynnwys y gystadleuaeth ddweud jôcs gynta’ o’i bath.
Eleni, roedd dyddiad yr Eisteddfod yn cyd-daro â diwedd y cyfyngiadau.
“Roedd hi’n rhy agos at ddiwedd y pandemig i ni drefnu’r ŵyl arferol, gyda chapel llawn pobl,” meddai Cadeirydd Pwyllgor yr Eisteddfod, Manon Richards. “Ar yr un pryd, fyddai eisteddfod ddigidol ddim wedi gweithio gan fod popeth yn dechrau agor eto.
“Felly, r’yn ni wedi penderfynu arloesi, gyda’r wobr fwya’ erioed i ni ei chynnig a gyda’r wobr fwya’ anarferol hefyd.
“Fe fydd yr enillwyr yn gallu dweud eu bod wedi ennill Cadair neu Goron yn yr eisteddfod yn Nhregaron yn 2022!”