Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed… ydych chi’n barod amdani?

Croeso i Eisteddfod Llanbed Gŵyl Banc Awst 27ain, 28ain a’r 29ain

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
6CB4D32C-E97F-4D89-9315
48182578-BE8E-4F65-96CE

Campws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw lleoliad Eisteddfod 2022. Mae’r Eisteddfod yn ddiolchgar iddynt ym mlwyddyn dathliadau 200 mlwyddiant y Brifysgol am gynnig cartref iddi eleni.

Mae Rhaglen yr Eisteddfod wedi ei chyhoeddi ac ar gael am ddim yn siopau a busnesau ardal Llanbed. Pe byddech am gopi electronig o’r Rhaglen, gellir cael mynediad at gopi yn erthygl Delyth Phillips gyhoeddwyd ar wefan Clonc360

Diolch yn fawr iawn am y nawdd a dderbynnir yn flynyddol oddi wrth Ymddiriedolaeth Pantyfedwen, cefnogaeth angenrheidiol i’w chynnal. Yr un mor allweddol yw’r nawdd a dderbynnir yn lleol oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Llanbed, busnesau a siopau, teuluoedd ac unigolion. Byddwch yn sylwi yn y Rhaglen ar y gefnogaeth yn yr hysbysebion a noddwyr y gwobrau a bod yr Eisteddfod wrth galon y gymuned. Mae yna gystadlaethau di-rif yn cynnig gwobrau hael – £2,000 a Thlws i’r buddugol yn Llais Llwyfan Llanbed – ewch amdani!

Cynhelir Talwrn y Beirdd nos Lun, 29ain Awst yn yr Hen Neuadd. Gwahoddir timau i gofrestru i gystadlu erbyn dydd Gwener, 19eg Awst. Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer y cystadlaethau llwyfan yw dydd Llun, 22ain Awst. Derbynnir eitemau i’r cystadlaethau Celf a Chrefft yn Adeilad y Celfyddydau’r Brifysgol rhwng 5.00 a 6.30 o’r gloch nos Fercher, 24ain Awst. Cofiwch sicrhau fod enwau, rhif y gystadleuaeth ac enw ysgol neu goleg ar y gwaith celf a chrefft ac nid ffugenw os gwelwch yn dda.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Eisteddfod a dathlu ein diwylliant yn Llanbed. Mae yna rywbeth at ddant pawb:

  • Cystadlaethau Llwyfan (1.30 prynhawn Sadwrn ac 11.15 bore Llun)
  • Arddangosfa Celf a Chrefft (Sadwrn a’r Llun)
  • Oedfa Undebol yng Nghapel Noddfa (10.30 bore Sul)
  • Llais Llwyfan Llanbed (7.00 nos Sul)
  • Talwrn y Beirdd (7.00 nos Lun).

Dewch yn llu i Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan Gŵyl Banc Awst 27ain, 28ain a’r 29ain, 2022.