Gorwedd ar y soffa a watcho TikTok

Cari Haf Jones o Gwmann sy’n ateb cwestiynau Clonc y mis hwn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
4D113645-62F9-4C6A-9D7F

Gorwedd ar y soffa yn gwylio TikTok yw ffordd Cari Gof o ymlacio, ond sgipio a mynd i gerdded yw ei ffordd hi o gadw’n heini.

Ar dudalen “Cadwyn y Cyfrinachau” rhifyn Hydref Papur Bro Clonc mae Cari o Gwmann yn ymateb i nifer o gwestiynau dwys a doniol.

Dyma flas i chi o’r hyn a gyhoeddwyd:

Beth yw dy arbenigedd?

Siarad yn gyflym.

Beth yw’r siopau annibynnol lleol wyt ti’n ymweld â nhw fwyaf aml?

Pwythau Helena Gregson i fyrhau pob dilledyn, Mark Lane am banini lysh a chippy Lloyds yn aml.

Beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden?

Siopa ar-lein, mas i gerdded a hala amser gydag Osian a Mia.

Oes yn rywbeth na elli di ei wneud y byddet ti’n hoffi ei gyflawni’n dda?

Cwcan cacs fel Mamgu.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf arnat ti?

Dad, Mam a fy chwiorydd.

Gallwch ddarllen rhagor o ymatebion Cari yn y rhifyn cyfredol o Bapur Bro Clonc sydd ar werth yn y siopau lleol ac ar gael fel tanysgrifiad ar y we.