Grease! yw’r gair ym Mro Pedr.

Cyffro sioe ‘Grease!’ yn Ysgol Bro Pedr wrth nesáu at ‘Lights, mics, action’!

gan Ifan Meredith
453DF477-75B1-4D5B-AE8B
6FF51E6A-3031-4A45-A6D7
AF19EF87-4861-4C6E-8DB6
304B8C5D-63FD-4F29-BA9D
8EFAC315-62A1-4BB6-B2DA
4D240D58-72BB-4AB2-B64C
45D95758-2829-48E2-A441
453DF477-75B1-4D5B-AE8B
842F3FD1-6D55-4B36-AB72
9A6296B6-FC8E-4F77-BFDD

Gydag ond ychydig ddiwrnodau i fynd tan i sioe ‘Grease!’ gael ei berfformio gan ddisgyblion blynyddoedd 5-13 Ysgol Bro Pedr, mae’r ysgol yn barod i gamu ar y llwyfan a dangos eu doniau.

Bu hanes gan yr ysgol o wneud sioe ‘Grease!’ yn y flwyddyn 1995 gyda sawl aelod o’r cast hynny yn edrych ymlaen nawr i wylio’r cynhyrchiad diweddaraf yn 2022, gan gynnwys rhai o’r athrawon!

“disgyblion wedi trawsnewid i’r T-Birds a’r Pink Ladies”

Mae tîm o staff wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau rhediad llyfn ar y noson. Miss Meleri Morgan yw cyfarwyddwraig y sioe:

“A wop-ba -ma -looma. A wop-bam-boom!

Wedi wythnosau o waith caled rydym yn barod i groesawu cynulleidfaoedd i Rydell High.

Mae wedi bod yn anrhydedd cael gweithio gyda disgyblion Bro Pedr i gynhyrchu’r Sioe Ysgol arbennig yma.

Mae Grease wedi ei ddyddio nôl i’r 70au ac mae newydd orffen rhedeg ar y West End sydd yn dangos ei phoblogrwydd hyd heddiw.

Mae’r ddeialog yn fyrlymus a sawl clasur o linell sydd yn siwr o wneud i chi chwerthin.”

Mae’r elfen gerddorol yn rhan annatod o bob sioe gyda chlasuron fel ‘Summer Nights’, ‘Grease Lightning’ a ‘We Go Together’ yn chwarae rhan bwysig yn Grease a’r cyfarwyddwraig gerddorol yw Mrs Elaine Davies:

“Mae’r ysgol heb gael sioe gerdd ers blynyddoedd ac felly mae’n hyfryd i gael sioe ar ôl hir aros. Mae’ Grease yn cynnwys llwyth o ganeuon a rhai cymleth a chyflym fel Born To Hand Jive a Shakin’ at the High School Hop. Mae rhai caneuon cyfarwydd fel Summer Nights a fy ffefrin, ‘Grease Lightining’ yn ogystal â rhai ychwanegol i’r llwyfan yn unig sef Rock ‘n Roll Party Queen, Fredie My Love a Mooning. Mae gennym fand o gerddorion sy’n cynnwys dau sacsoffôn denor, dau gitâr drydanol, drymiau a dau allweddellau. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda Miss Morgan a Mrs Sally Saunders i blethu ein harbenigedd gyda’i gilydd am y tro cyntaf ers cofid.”

Does dim sioe yn gyflawn heb ddawnsio a’r coreograffydd yw Mrs Sally Saunders:

“Mae wedi bod yn hyfryd i weithio gyda disgyblion talentog Bro Pedr ac rwy’n methu aros i’w gweld yn disgleirio ar y llwyfan!”

Mae’r broses wedi bod ar waith ers dechrau Medi a’r Prif Gast a chorws wedi bod yn gweithio’n galed fel rhan o gast o dros 75 mewn nifer. Wrth benodi’r cymeriadau i’r disgyblion amrywiol, bu’n gyfnod o bendroni ac mae pob nos Lun wedi troi mewn i noson Grease wrth ymarfer ar ôl ysgol ac erbyn hyn mae’r disgyblion wedi trawsnewid i’r T-Birds a’r Pink Ladies.

“Mae sioe Ysgol wir yn dod â’r Ysgol gyfan ynghyd – o’r Adran DT sydd wedi llwyddo rhoi car ar y llwyfan a chreu gwisgoedd ar gyfer y cast cyfan i’r Athro Cerdd sydd wedi dod o hyd i aelodau band o bob cwr o’r sir i’r Athro Drama sydd wedi byw a bod pob gair o’r sgript a phob gair o’r holl ganeuon ers misoedd bellach. Mae yna gymaint o dalent yn yr Ysgol – yr athrawon Celf a Graffeg sydd wedi creu’r set, yr Athro Dawns sydd wedi sicrhau bod aelodau’r Chweched yn symud yn gynt na ‘Grease Lightning’ ar draws y llwyfan… ond i enwi rhai sydd wedi mynd y filltir ychwanegol er mwyn cefnogi’r disgyblion.

Fel arfer, mae’r gymuned gyfan wedi bod yn gefnogol tu hwnt a diolch yn fawr iawn i bob busnes sydd wedi noddi’r sioe. Rydym wir yn gwerthfawrogi’r cymorth yma.

Gobeithiwn yn fawr y bydd pawb yn mwynhau’r perfformiad ac yn cael eu hysbrydoli gan ein disgyblion egnïol a brwdfrydig ni – disgyblion sy’n ysbrydoliaeth ddyddiol inni, staff Ysgol Bro Pedr.”- Mrs Jane Wyn

Gyda pharatoadau’r gwisgoedd a cholur a gwallt yn nesáu at eu terfyn, mi fydd yn siwr o fod yn chwip o sioe i dynnu pawb at ei gilydd yn barod i’r Nadolig.

Gyda’r sioe yn rhedeg nosweithiau Llun, Mawrth a Mercher wythnos nesaf, mae’r llwyfan yn barod, mae’r car yn ei le ac yn bwysicach oll, mae’r cast yn barod i ddiddanu’r gynulleidfa wrth gyflwyno sioe ‘Grease!’.

Er bod yr holl docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer bob noson, cewch weld ychydig o ragolwg o’r hyn sydd i ddod yn y fideo ecsgliwsf yma: