Gwasanaeth a Gorymdaith yn Llambed i ddathlu 200 mlynedd o Addysg Uwch yng Nghymru.

Ar ddydd Gwener Awst 12fed bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn nodi 200 mlynedd.

gan Lowri Thomas

Yn ystod gwasanaeth dathlu a gorymdaith yn nhref Llambed ddydd Gwener (Awst 12fed) bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn nodi 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru.

Mae’r daucanmlwyddiant eleni yn dathlu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed ar 12 Awst 1822 pan osodwyd y garreg Sylfaen gan yr Esgob Thomas Burgess yn y dref sy’n nodi man geni addysg uwch yng Nghymru. O’r hadau a heuwyd yn Llanbedr Pont Steffan dros ddwy ganrif yn ôl, mae’r Brifysgol wedi tyfu’n Brifysgol aml-gampws, sector deuol sy’n darparu rhaglenni galwedigaethol perthnasol mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:

“Mi fydd y gwasanaeth a’r orymdaith yn gyfle arbennig iawn i ddathlu’r daucanmlwyddiant yn Llambed. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gwesteion, staff, myfyrwyr, cyn fyfyrwyr a phartneriaid allweddol y Brifysgol i ymuno â ni ar gyfer yr achlysur gorfoleddus hwn.

“Mae’r Daucanmlwyddiant yn nodi dwy ganrif o barhad cyfleoedd addysg uwch i bobl Cymru ac yn dathlu cyfraniad ein prifysgolion a’n colegau yn y stori honno”.

Disgwylir i hyd at 300 o bobl i fynychu’r digwyddiad arbennig hwn wrth i’r dathliadau geisio efelychu’r hyn a ddigwyddodd yn nhref Llambed union 200 mlynedd yn ôl.  Bydd y diwrnod yn cychwyn gyda gwasanaeth yn Eglwys San Pedr gydag Esgob Tyddewi, Y Gwir Barchedig Joanna Penberthy, yn gwasanaethu.

Yn dilyn y gwasanaeth, fel y digwyddodd yn 1822, cynhelir gorymdaith o’r Eglwys ar hyd strydoedd Llambed i Gampws y Brifysgol. Yno, bydd Esgob Tyddewi a Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, yn dadorchuddio cofeb arbennig i nodi’r Daucanmlwyddiant. Yn dilyn hyn, bydd y Gweinidog  yn agor yr Oriel, sef arddangosfa o hanes campws Llambed ac sy’n cynnwys y garreg sylfaen. Bydd yr Esgob hefyd yn dadorchuddio’r Gloch Heddwch.

Yn ystod y diwrnod, bydd lansiad o’r llyfr ‘Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant’ a olygwyd gan Yr Athro John Morgan-Guy yn ogystal â chyfle i fynd ar deithiau tywys o’r campws.