Bu Dydd Sul y 14eg o Hydref yn ddiwrnod o lanhau ar ôl effeithiau Storm Callum ar yr ardal, ac yn ddiwrnod o gyfri’r gost am y colledion.
Bu hewlydd yr ardal ar gau drwy’r dydd oherwydd llifogydd y dŵr glaw. Doedd dim modd teithio ar yr hewlydd canlynol:
- A482 o Gwmann i Lanbed.
- B4343 o Gwmann i Gellan
- A485 o Bencarreg i Gwmann
- B4337 o Lanybydder i gyfeiriad Alltyblaca.
- A485 ym Metws Bledrws
Gwelwyd oedi ar hewlydd eraill hefyd gyda dŵr glaw yn gwneud amodau gyrru yn beryglus yn nhref Llanbed a phentrefi Drefach a Llanllwni.
Effeithiwyd ardaloedd cyfagos fel Llandysul, Castell Newydd Emlyn, Pumsaint ac Aberaeron yn ogystal.
Dywedodd llygad dyst iddo weld nifer fawr o geir yn ceisio croesi’r dŵr yn Llanbed, a methu. Yn ystod Dydd Sadwrn daeth cyfanswm o wyth car BMW i stop oherwydd effaith y llifogydd. Fore Sul, gwelwyd cerbydau adfer ceir yn eu casglu un ar ôl y llall.
Gwnaed niwed mawr i gartrefi preswyl ac adeiladau masnachol yn Llanbed a Llanybydder. Doedd archfarchnad y Co-op ddim wedi ail agor ddydd Sul oherwydd olion y dŵr yno. Mae llawer yn aros am asesiadau yswiriant hefyd.
Profiad anymunol iawn yw llifogydd yn y tŷ gyda niwed i eiddo personol a lleithder, a’r cyfan yn anghyfleus dros ben. Gyda’r tŷ fel arfer yn hafan glud a diogel i aelodau’r teulu, mae niwed a achosir gan ddŵr fel hyn yn gallu troi bywyd teuluol ben i waered. Mae’n fwy na niwed cosmetig yn unig.
Gwelwyd ysbryd cymunedol ar ei orau yn yr ardal wrth i gymdogion a ffrindiau helpu i lanhau cartrefi’r rhai a effeithiwyd. Bu llawer yn garedig iawn yn cyfrannu bwyd a dillad a benthyg celfi i’r rhai a ddioddefodd.
Bu’r ardal yn ddigon ffodus na chollwyd bywydau yma, a bu’r difrod tipyn gwaeth mewn rhai ardaloedd eraill, ond mae’r hyn ddigwyddodd yn ein cymunedau dros y penwythnos yn ein hatgoffa pa mor beryglus yw grym natur.