Cyfri Cost Storm Callum

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Llifogydd Highmead Terrace Llanybydder. Llun gan Linda Misby Sellick
Llifogydd Highmead Terrace Llanybydder. Llun gan Linda Misby Sellick

Bu Dydd Sul y 14eg o Hydref yn ddiwrnod o lanhau ar ôl effeithiau Storm Callum ar yr ardal, ac yn ddiwrnod o gyfri’r gost am y colledion.

Bu hewlydd yr ardal ar gau drwy’r dydd oherwydd llifogydd y dŵr glaw.  Doedd dim modd teithio ar yr hewlydd canlynol:

  • A482 o Gwmann i Lanbed.
  • B4343 o Gwmann i Gellan
  • A485 o Bencarreg i Gwmann
  • B4337 o Lanybydder i gyfeiriad Alltyblaca.
  • A485 ym Metws Bledrws
Co-op Llanbed
Co-op Llanbed

Gwelwyd oedi ar hewlydd eraill hefyd gyda dŵr glaw yn gwneud amodau gyrru yn beryglus yn nhref Llanbed a phentrefi Drefach a Llanllwni.

Effeithiwyd ardaloedd cyfagos fel Llandysul, Castell Newydd Emlyn, Pumsaint ac Aberaeron yn ogystal.

Dywedodd llygad dyst iddo weld nifer fawr o geir yn ceisio croesi’r dŵr yn Llanbed, a methu.  Yn ystod Dydd Sadwrn daeth cyfanswm o wyth car BMW i stop oherwydd effaith y llifogydd.  Fore Sul, gwelwyd cerbydau adfer ceir yn eu casglu un ar ôl y llall.

Gwnaed niwed mawr i gartrefi preswyl ac adeiladau masnachol yn Llanbed a Llanybydder. Doedd archfarchnad y Co-op ddim wedi ail agor ddydd Sul oherwydd olion y dŵr yno.  Mae llawer yn aros am asesiadau yswiriant hefyd.

Profiad anymunol iawn yw llifogydd yn y tŷ gyda niwed i eiddo personol a lleithder, a’r cyfan yn anghyfleus dros ben.  Gyda’r tŷ fel arfer yn hafan glud a diogel i aelodau’r teulu, mae niwed a achosir gan ddŵr fel hyn yn gallu troi bywyd teuluol ben i waered.  Mae’n fwy na niwed cosmetig yn unig.

Gwelwyd ysbryd cymunedol ar ei orau yn yr ardal wrth i gymdogion a ffrindiau helpu i lanhau cartrefi’r rhai a effeithiwyd.  Bu llawer yn garedig iawn yn cyfrannu bwyd a dillad a benthyg celfi i’r rhai a ddioddefodd.

Bu’r ardal yn ddigon ffodus na chollwyd bywydau yma, a bu’r difrod tipyn gwaeth mewn rhai ardaloedd eraill, ond mae’r hyn ddigwyddodd yn ein cymunedau dros y penwythnos yn ein hatgoffa pa mor beryglus yw grym natur.

Myfyrwyr yn nofio mewn dŵr ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant Llanbed. Llun gan William Rathouse.
Myfyrwyr yn nofio mewn dŵr ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant Llanbed. Llun gan William Rathouse.
Trafferthion yn Stryd y Bont Llanbed. Llun gan Dylan Lewis.
Trafferthion yn Stryd y Bont Llanbed. Llun gan Dylan Lewis.
Y Gwasanaeth Tân yn mynd o dŷ i dŷ yn Nheras yr Orsaf, Llanybydder. Llun gan Gary Jones.
Y Gwasanaeth Tân yn mynd o dŷ i dŷ yn Nheras yr Orsaf, Llanybydder. Llun gan Gary Jones.
Garej Pontfaen, Llanbed. Llun gan Sarah Harries Jones.
Garej Pontfaen, Llanbed. Llun gan Sarah Harries Jones.