Lansio Cyfrol ‘A History of Christianity in Wales’

Noson arbennig a gynhaliwyd yn Hen Neuadd Coleg Llambed nos Fawrth.

gan Lowri Thomas

Mewn noson arbennig a gynhaliwyd yn Yr Hen Neuadd ar gampws Llambed, (nos Fawrth, Mai 10fed 2022), lansiwyd y gyfrol, ‘A History of Christianity in Wales,’ a awdurwyd gan Yr Athro D. Densil Morgan, Yr Athro Barry Lewis, David Ceri Jones a’r Athro Emerita Madeleine Gray.

Ysgrifennwyd y gyfrol ‘A History of Christianity in Wales,’ a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru o ganlyniad i’r ffaith y teimlwyd nad oedd un llyfr cyfansawdd yn disgrifio, dadansoddi a chyflwyno Cristnogaeth yng Nghymru, o ddyddiau Dewi Sant hyd y presennol ar gael.

Mae Cristnogaeth, yn ei ffurfiau Catholig, Protestannaidd ac Anghydffurfiol, wedi chwarae rhan enfawr yn hanes Cymru ac wrth ddiffinio a llunio hunaniaeth Gymreig dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf. I nifer yn y Gymru gyfoes, nid yw stori datblygiad Cristnogaeth yn eu gwlad yn hysbys o hyd. Er bod hanes Cristnogaeth yng Nghymru wedi bod yn destun diddordeb parhaol i haneswyr Cymru, mae llawer o’u gwaith wedi bod yn arbenigol iawn ac nid yw bob amser yn hygyrch i gynulleidfa gyffredinol.

Gan ddefnyddio arbenigedd pedwar hanesydd blaenllaw o’r traddodiad Cristnogol Cymreig, mae’r gyfrol hon wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer y darllenydd cyffredinol, a’r rhai sy’n dechrau archwilio gorffennol Cristnogol Cymru.

I David Ceri Jones bwriad y llyfr yw bod,

“haneswyr newydd yn medru holi cwestiynau newydd am Gristnogaeth yng Nghymru, ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o haneswyr sy’n arbenigo yn y traddodiad Cristnogol Cymreig.”

Barry Lewis a luniodd y penodau cyntaf ar ddyddiau cynharaf Cristnogaeth gan gynnwys Oes y Saint, Madeleine Gray ar yr Oesoedd Canol, David Ceri Jones ar y cyfnod modern cynnar gan gynnwys y Diwygiad Protestannaidd a’r Diwygiad Methodistaidd, a’r Athro D. Densil Morgan ar hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

Cynhaliwyd y lansiad ar gampws Llambed dan arweiniad y Profost Gwilym Dyfri Jones. Croesawyd y gynulleidfa gan yr Is-ganghellor Medwin Hughes DL, a gwnaeth, Yr Athro D.Densil Morgan, Madeleine Gray a David Ceri Jones gyfrannu at y sgwrs.

Dywedodd yr Athro D. Densil Morgan,

“Mae’n fraint arbennig bod yn un o awduron y gyfrol hon, ac rydym yn falch ein bod ni’n medru ei lansio fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.”

Yn ystod y lansiad hefyd fe rannodd Yr Esgob J Wyn Evans, Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ei weledigaeth gyda’r gynulleidfa o sefydlu seminarau Hanes Cristnogaeth ar gampws y Brifysgol yn rheolaidd fel ffordd o ymchwilio ymhellach i bob agwedd ar hanes y Ffydd yng Nghymru. Ychwanegodd,

“Mae’n bwysig i ni fedru rhannu’n gweledigaeth ac ymestyn ein gweledigaeth. Mae campws Llambed yn le arbennig wrth gwrs pan i ni’n meddwl am hanes Cristnogaeth yng Nghymru. O gofio bwriad Yr Esgob Thomas Burgess, sylfaenydd campws Llambed o ddarparu addysg fforddiadwy i bobl oedd yn methu astudio mewn Prifysgolion ar y pryd, bydd cynnal y seminarau yn ddatblygiad addas ac yn ddatblygiad naturiol o’r daucanmlwyddiant fel symbol ac yn fynegiant parhaol o’r hyn sy’n bwysig am y daucanmlwyddiant hyn, a chyfraniad y Brifysgol hon nid yn unig i Gristnogaeth yng Nghymru, ond i’r Gymry gyfoes, ac i Gymry’r dyfodol dros y ddau can mlynedd nesa’.”

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed a Chaerfyrddin,

“Bydd cynnal seminarau Hanes Cristnogaeth ar gampws Llambed yn cynnig dathliad a gwaddol o’r hyn sydd eisioes wedi’i sefydlu yma, ac rwy’n siwr fydd yna ddiddordeb mawr ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru i gefnogi gweledigaeth mor gyffrous.”

Mae ‘A History of Christianity in Wales’ ar gael i’w brynu mewn siopau llyfrau lleol, a hefyd ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru