Newidiadau i Wasanaeth Bwcabus

Mae newidiadau yn digwydd i wasanaeth fflecsi Bwcabus o 27 Mehefin 2022 ymlaen.

gan Siwan Richards
F5C8C7B6-ECDD-4A9B-AEB5

Steve Vallance Transport Images, Flickr

Ni fydd y teithiau sefydlog canlynol yn rhedeg yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin/De Ceredigion mwyach o ddydd Llun, 27 Mehefin 2022, ond gall teithwyr deithio o hyd os ydynt wedi archebu ymaen llaw.

  • 612 – Pont-tyweli – Llandysul – Penrhiwllan – Llandyfriog – Castellnewydd Emlyn ar ddydd Mawrth
  • 620 – Dihewyd – Mydroilyn – Aberaeron ar ddydd Mercher
  • 688 – Llanbedr Pont Steffan – Llangybi – Tregaron rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn

Hefyd gwneir newidiadau’r i’r gwasanaeth canlynol:

  • 611 – Rhydlewis – Brongest – Castellnewydd Emlyn
  • 613 – Llandysul – Pentre-cwrt – Saron
  • 615 – Tanglawst – Capel Iwan – Penrherber – Castellnewydd Emlyn
  • 616 – Temple Bar – Cribyn – Llanbedr Pont Steffan
  • 617 – Rhydowen – Talgarreg – Gorsgoch – Llanbedr Pont Steffan
  • 619 – Nebo – Pennant – Aberaeron
  • 621 – Llandysul – Pont-tyweli – Llanfihangel-ar-arth – Pencader

Mae ‘fflecsi Bwcabus’ yn wasanaeth bysiau lleol sy’n darparu cyfuniad o wasanaethau llwybrau sefydlog a theithiau wedi’u harchebu ymlaen llaw. Nod ‘fflecsi Bwcabus’ yw helpu pobl i wneud teithiau lleol a chysylltu â gwasanaethau bws prif linell. Mae bws yn eich casglu ar eich cais, gan newid ei lwybr fel y gall yr holl deithwyr gyrraedd lle mae angen iddynt fynd.

Gellir archebu’r gwasanaeth Bwcabus trwy ffonio 0300 234 0300 rhwng 6.00am a 11.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a rhwng 7.00am i 7.00pm ar ddydd Sul.

Neu gellir lawrlwytho yr ap fflecsi i archebu. Mae’r ap yn dangos i chi ble mae’r gwasanaeth fflecsi, a ble fydd yn eich casglu a phryd fydd yn cyrraedd.

Ceir manylion pellach ynghylch y gwasnaeth ‘Fflecsi Bwcabus’ a dolen i lawrlwytho’r ap yma.