gan
Dylan Lewis
Gwelwyd cawod o law anarferol o drwm prynhawn ma yn Llanbed ac yng nghanol yr heol ger Garej Troedyriw cododd darn mawr o darmac gan wneud y ffordd fawr yn anniogel.
Y bwriad yw gosod goleuadau traffig yno tan yr asesir y difrod yn llawn. Credir bod y niwed yn fwy nag ar yr wyneb yn unig.
Gyda cherbydau trwm yn defnyddio’r brif ffordd hon sy’n arwain o Lanbed i gyfeiriad Aberaeron, bydd tipyn o oedi bellach yn ystod oriau brig. Rheolir y traffig fel y defnyddir un ochr y ffordd yn unig am y tro.
Mae’n rhyfedd faint o ddifrod y gellir ei wneud gan ddŵr. Mae’n ymddangos yr achoswyd hyn gan bwysau mawr o ddŵr glaw o dan wyneb yr hewl gan wneud y tarmac i chwyddo.