Yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc fe welwch mai Manon Lois Williams o Bencarreg sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau.
Mae Manon yn ferch ifanc amldalentog. Mae ganddi radd mewn Pensaerniaeth Mewnol ond newidiodd ei gyrfa er mwyn dysgu i fod yn Nyrs Filfeddygol. Yn ychwanegol i hynny, dechreuodd ei busnes ei hunan yn ystod y cyfnod clo, sef Blaguro a datgela yn Clonc ei bod yn gallu torri gwallt yn dda hefyd.
Wrth drafod ei harferion gwael dywed ei bod yn yfed gormod o Pepsi Max ond disgrifia ei hun fel person caredig, cariadus ac yn gwd sbort mewn tafarn!
Ble a phryd wyt ti mwyaf hapus?
Gyda Rhys neu mas gyda ffrindiau.
Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?
Siani Sionc.
Pwy sy’n ddylanwad arnat ti?
Mam a Dad.
Er mwyn darganfod mwy am Manon, tanysgrifiwch i Bapur Bro Clonc ar y we, neu ewch i brynu copi o rifyn mis Mawrth yn y siopau lleol.