Dros y Nadolig, ces sawl stori ddifyr am Lanybydder gan bobl o bell ac agos. Y mis hwn, hoffwn ddiolch i Beryl Lewin a Betty Higgins am eu cyfraniad nhw. Dewch nôl gyda fi felly yn fy mheiriant amser i’r flwyddyn 1939 sef dechrau’r Ail Ryfel Byd. Gan fod awyrennau bomio’n cael eu defnyddio i dargedu pobl, golygai hyn y gallai fod yn beryglus i fyw mewn ardaloedd trefol. Dyna pam felly y symudwyd pobl o’r ardaloedd mwyaf tebygol o gael eu bomio i ardaloedd diogelach fel cefn gwlad Cymru. Anfonwyd menywod a phlant i bob rhan o Gymru ac yn eu plith roedd teulu bach o Lundain sef Sally Higgins a’i merched Ruth, Betty a Jacqueline. Dyma eu hanes nhw.
Mae Betty, sy’n 91 erbyn hyn, yn byw yn Llundain ac yn awyddus iawn i rannu ei phrofiad hi fel efaciwî â ni. Wrth i Betty, ei mam a’i chwiorydd adael eu cartref yn y brifddinas a chyrraedd gorsaf Paddington, roedden nhw’n ymwybodol bod eu byd bach nhw ar fin newid. Wrth fentro i fyd hollol ddieithr, doedd dim syndod eu bod nhw’n teimlo’n ofnus ac yn ansicr. Roedd tad Betty yn ymladd yn y rhyfel a’i brawd Paul wedi ennill ysgoloriaeth i fynd i Fanceinion. Felly, roedd y teulu bach, fel miloedd o deuluoedd eraill, wedi cael eu gwahanu. Un cês yr un oedd ganddynt a hynny wrth gwrs yn unol â rheolau’r llywodraeth. Doedd dim llawer o le i eiddo personol a chyda’r mwgwd nwy a’r tag adnabod, bant â nhw ar y trên i fyd gwahanol. Cofia Betty fod y trên yn llawn dop a mam wedi pacio ychydig o frechdanau iddyn nhw er eu bod wedi cael gorchymyn i beidio rhoi bwyd yn y cês. Roedd mam Betty’n ddiabetig ac roedd plygu’r rheolau ychydig felly yn gam synhwyrol i’w gymryd.
Roedd y daith yn hir a blinedig ond o’r diwedd, cyhoeddwyd eu bod nhw wedi cyrraedd. Yn ôl Betty, doedd dim ansoddeiriau i ddisgrifio sut oedden nhw’n teimlo wrth aros ar y platfform a chlywed iaith estron! I lawer o’r plant, roedd cefn gwlad yn lle dieithr iawn ac roedd clywed yr iaith Gymraeg yn brofiad hollol newydd. Doedd dim syniad gyda nhw ble’r oedden nhw ond buan y clywsant eu bod wedi cyrraedd pentref bach gwledig Llanybydder.
Mynnwch gopi o rifyn Chwefror Papur Bro Clonc er mwyn darllen mwy, ar werth yn y siopau lleol, neu drwy danysgrifio’n ddigidol ar y we.