Parcio am ddim i rieni Ysgol Bro Pedr

Cyhoeddi bod maes parcio y Cwmins am ddim rhwng 2:50 a 3:30 yn ddyddiol i rieni.

gan Ifan Meredith

“Yn ymwybodol bod llai o lefydd parcio, sydd yn agos at yr ysgol”

Yn dilyn trafodaethau rhwng Ysgol Bro Pedr â’r Cyngor Sir, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi caniatáu bod rhieni Ysgol Bro Pedr yn cael defnyddio maes parcio’r Cwmins rhwng 2:50 a 3:30 yn ddyddiol yn ystod adeg tymor am gyfnod penodol.

Daw hyn yn dilyn cwynion am ddiffyg llefydd parcio o achos datblygiad y Ganolfan Hamdden yn ogystal â’r uned profi cancr yn cymryd rhai llefydd parcio’r Rwcari ar hyn o bryd.

“trefniant yma mewn lle tan ddiwedd tymor yma, 21ain o Ragfyr”

Mae’r ddarpariaeth yma yn ychwanegol i’r hyn sydd yn cael ei ganiatáu ar faes parcio Rwceri Llanbed o barcio am ddim rhwng 2:50 a 3:30 yn ddyddiol yn ystod adeg tymor er mwyn i rieni gael casglu plant ar ddiwedd y dydd.